Hyfforddiant Cyfamod y Lluoedd Arfog
Mae mwyafrif helaeth y 2.8 miliwn o gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog sy’n byw ym Mhrydain heddiw wedi addasu’n llwyddiannus i fywyd sifil, gan wneud defnydd da o’r sgiliau a’r profiad maen nhw wedi'u cael wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Fodd bynnag, mae angen cymorth naill ai ar adeg rhyddhau neu flynyddoedd lawer wedyn i leiafrif sylweddol ohonyn nhw.
Mae’r e-ddysgu hwn wedi’i ddatblygu gan Gyngor Swydd Warwick ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’n egluro ymrwymiad Cyfamod y Lluoedd Arfog a sut mae'n gallu cael ei anrhydeddu a’i weithredu yn y Gymuned. Bydd yn eich helpu chi i ddeall egwyddorion y Cyfamod a’u rhoi nhw ar waith ar lefel leol. Mae hefyd yn darparu ffynonellau gwybodaeth a chymorth pellach. Rhaglen e-ddysgu Cyfamod y Lluoedd Arfog.