Cymorth Lleol y Lluoedd Arfog

Hwb Cymorth Caerffili ar gyfer Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog

Mae Hwb Cymorth Caerffili ar gyfer Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog wedi’i sefydlu i ddarparu gwasanaeth  o safon uchel i gyn-aelodau y Lluoedd Arfog a phersonél sy’n gwasanaethu. Mae’n grymuso cyn-aelodau y Lluoedd Arfog a’r rhai sy’n pontio o fywyd milwrol i fywyd sifil i helpu eu hunain ac i integreiddio i gymunedau lleol.

Mae’r Hwb yn helpu:

  • Datblygu rhagor o ymwybyddiaeth o'r cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael i bersonél y Lluoedd Arfog, a chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd yn eu cymuned leol nhw.
  • Rhoi'r hyder, yr wybodaeth a'r sgiliau i gyn-aelodau a phersonél y Lluoedd Arfog i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ble a phryd y maen nhw ei angen.
  • Atgyfnerthu hunanddibyniaeth, hyder, a pharch pobl a'u hunan-rymuso ar ôl iddyn nhw adael y gwasanaethau a gwella iechyd a lles hirdymor cymuned cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog.
  • Bod yn fan lle mae cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog yn teimlo eu bod yn “perthyn”
  • Cynnig cyfleoedd i ymgysylltu â'r gymuned leol a chynnal gweithgareddau. Mae’r Hwb hwn yn hanfodol i leihau arwahanrwydd cymdeithasol o fewn Cymuned y Lluoedd Arfog.

Mae'r sesiynau yn cael eu cynnal yng nghanol y Fwrdeistref Sirol yn y Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon yn Ystrad Mynach, Caerffili, sy'n hawdd ei chyrraedd mewn car, ar drên ac ar fws.

Yn ogystal â phaned a brechdan brecwast, mae gennym ni sesiynau grŵp cymorth a hyfforddiant ar faterion fel rheoli straen, panig a phryder, rheoli meddyliau anodd ac ymwybyddiaeth ofalgar.

Bob dydd Sadwrn 10:00-12:00, Canolfan Rhagoriaeth Chwaraeon, Ystafell Ramsey, Ystrad Mynach CF82 7EP

Cymdeithas Catrawd Frenhinol Cymru

Ers bron i gan mlynedd, mae cymdeithasau cymrodyr, drwy eu rhwydwaith o ganghennau lleol, wedi bod yn ganolbwynt i gyn-aelodau’r gatrawd gyfarfod yn rheolaidd.

Maen nhw hefyd yn cydlynu cymorth i aelodau'r gatrawd sy'n cael eu hunain mewn amgylchiadau anodd oherwydd salwch a chaledi teuluol.

Mae gan Gatrodau Cyfansoddol Brenhinol Cymru rwydwaith gweithredol o ganghennau cymdeithasu. Dros amser, mae disgwyl y bydd y canghennau'n integreiddio'n raddol ac y bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar y cyd. Os hoffech chi gysylltu â’r canghennau lleol, gwnewch hynny drwy Bencadlys y Catrodau, Caerdydd.

Ardal Bargod a Choed Duon

Cyfeiriad: Tafarn y Capel, Park Place, Gilfach, Bargod CF81 8LW.

Amser cyfarfod: Y dydd Gwener cyntaf bob mis am 8.00pm ac eithrio mis Awst a mis Medi.

Cysylltwch â Mr PA Davies MBE (Paul) Ffôn: 01443 822034 | E-bost: bargoedandblackwooddistrictbranch@outlook.com

Cyfeiriad Caerffili: Clwb Cymdeithasol Llanbradach, y tu ôl i'r Stryd Fawr, Caerffili CF83 3LP.

Amser cyfarfod: Y dydd Sul diwethaf bob mis am 7.30pm.

Cysylltwch â Mr P Bevan (Peter) Ffôn: 02920 831112 | E-bost: caerphillybranch@outlook.com.

Cymdeithas y Gwarchodlu Cymreig

Dibenion Cymdeithas y Gwarchodlu Cymreig yw:

  • Hyrwyddo effeithlonrwydd y Gwarchodlu Cymreig drwy feithrin "esprit de corps" a thrwy unrhyw ddulliau eraill bydd yr ymddiriedolwyr yn eu pennu o bryd i'w gilydd.
  • Cynorthwyo personau sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd neu sydd wedi gwasanaethu yn y Gwarchodlu Cymreig a dibynyddion personau o'r fath sydd mewn cyflwr o angen, caledi neu drallod.
  • Coffau a chofio'r aelodau hynny, neu gyn-aelodau, o'r Gwarchodlu Cymreig sydd wedi colli eu bywydau neu wedi dioddef anaf, neu wedi rhoi eu hunain mewn perygl o golli bywyd neu anaf, wrth wasanaethu dros y cyhoedd.

Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol

Dewch i gwrdd â ffrindiau newydd a hen drwy ein rhwydwaith o ganghennau a chlybiau cangen. Mae ein canghennau a’n clybiau ni yn rhoi cyfle gwych i aelodau gwrdd yn gymdeithasol. Man lle gallwn ni ddarparu cyngor a chymorth lles yn lleol, cymryd rhan mewn digwyddiadau seremonïol a helpu cynnal cymorth codi arian lleol

Bargod/Coed Duon

Cyfeiriad: Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol, Cangen Bargod a Choed Duon. 1 Beili Glas Road, Trelyn, Coed Duon, Caerffili NP12 3UU

Amser cyfarfod y Pwyllgor: Y bedwerydd dydd Mawrth bob mis am 19:30 yng Ngwesty'r Capel, Gilfach, Bargod.

Cyfarfodydd cymdeithasol: Yn ôl yr angen. Cysylltwch â Chymdeithas y Llu Awyr Brenhinol.

Clybiau brecwast

Mae clybiau brecwast cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog (AFVBC) yn hwyluso cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog a phersonél sy’n gwasanaethu i gwrdd mewn amgylchedd hamddenol, diogel, cymdeithasol; mwynhau brecwast a thynnu coes; brwydro yn erbyn unigrwydd a chaniatáu i gyn-aelodau ‘ddychwelyd i’r llwyth’. Nid oes unrhyw ffioedd na thanysgrifiadau; dim ond talu am eich brecwast eich hun.

Clybiau Brecwast Cyfunol y Lluoedd Arfog a Chyn-aelodau

Rydyn ni'n grŵp o gyn-aelodau ac aelodau Lluoedd Arfog Ei Fawrhydi ac yn debyg i glybiau brecwast cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog eraill ledled y wlad a thramor. Ein hethos yw cyd-gymorth; mae'n gweithio oherwydd bod gennym ni i gyd hiwmor ac agweddau tebyg, ac mae'r bywyd cymdeithasol rydyn ni'n ei fwynhau nawr yn debyg i'n dyddiau gwasanaethu.