Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili
Mae gan Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili gynrychiolaeth o lawer o sefydliadau sy’n ystyried amrywiaeth o fesurau i gynorthwyo ein cymuned lluoedd arfog leol ni (gan gynnwys cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog, personél y Lluoedd Arfog, aelodau wrth gefn a’u teuluoedd) o fewn ein cymunedau lleol ni ledled y Fwrdeistref Sirol.
Mae aelodau Sector Gwirfoddol Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili yn cynnwys:
- Y Lleng Brydeinig Frenhinol
- Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a’u Teuluoedd (SSAFA)
- Change Step
- Alabaré
- Canolfan Cyngor ar Bopeth
- First Choice Housing Association
- Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO)
- Sefydliad St Loye
- Hire a Hero
- Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol
- Gwasanaeth Lles Meddygol Amddiffyn (DMWS)
- Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin
Mae aelodau eraill Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili yn cynnwys:
- Ysbyty Maes 203 (Cymreig)
- Catrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol
- Catrawd 104
- Llu Awyr Ategol Brenhinol
- Veterans UK (sef yr SPVA gynt)
- Cymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru (RFCA)
- GIG Cymru i Gyn-filwyr
- Gwasanaeth Prawf
- Cwmni Adsefydlu Cymunedol
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Fforwm Busnes Caerffili
- Ffederasiwn Busnesau Bach
- Heddlu Gwent
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB)
- a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sydd i gyd yn cydweithio i helpu a chynghori ein cymuned y Lluoedd Arfog.
Gydag arbenigedd lleol o'r fath ar gael gan Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili, mae'n ddigon posibl y byddai'n fanteisiol i unrhyw grŵp neu sefydliad ym Mwrdeistref Sirol Caerffili sy'n dymuno cyflwyno cais am arian i Gronfa'r Cyfamod drafod eu cais gyda Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili. Mae’n ddigon posib y bydd hyn yn cryfhau’r cais, wrth iddo fynd ymlaen i’r Bwrdd Gweinyddol Datganoledig Rhanbarthol.
E-bost: LluoeddArfog@caerffili.gov.uk
Bydd y penderfyniad terfynol ar addasrwydd ceisiadau yn cael ei wneud gan Fwrdd Cyfamod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dilyn cyngor ac adborth gan y Byrddau Gweinyddol Datganoledig Rhanbarthol.
Papurau cyfarfodydd