Mae Caerffili, fel pob awdurdod lleol ledled Cymru, yn wynebu heriau ariannol sylweddol ar hyn o bryd oherwydd pwysau parhaus ar y gyllideb wedi'u hachosi gan nifer o ffactorau digynsail.
Rydyn ni wedi dioddef dros ddeng mlynedd o galedi wedi'i orfodi gan lywodraeth y DU gyda thoriadau i gyllidebau, rhewi cyflogau a symud yn y baich i'r rhai sy’n gallu ei fforddio leiaf. Rydyn ni hefyd yn teimlo effaith Brexit, pandemig byd-eang, prisiau ynni cynyddol ac argyfwng costau byw.
Er bod y pwysau hyn yn sylweddol, rydyn ni mewn sefyllfa gref i wynebu’r heriau sydd o’n blaenau yn sgil ein rheolaeth ariannol gadarn dros y blynyddoedd diwethaf
Un o'r cynigion allweddol yn yr adroddiad yw defnydd untro o gronfeydd wrth gefn y Cyngor yn 2023/24, sef cyfanswm o £15.046 miliwn. Mae gan Gaerffili gronfeydd wrth gefn iach ar hyn o bryd, gyda mwyafrif yr arian wedi'i neilltuo a'i glustnodi ar gyfer cynlluniau penodol. Fodd bynnag, mae cyfran o’r arian yn gallu cael ei ddefnyddio os bydd ei angen yn y dyfodol.
Mae arbedion parhaol ac arbedion dros dro eraill o £12.421m wedi cael eu nodi hefyd er mwyn helpu i fantoli'r gyllideb ar gyfer 2023/24. “Mae’r defnydd untro o gronfeydd wrth gefn ac arbedion dros dro yn 2023/24 yn ddatrysiad tymor byr a bydd e'n rhoi amser i ni ail-lunio ein gwasanaethau i fynd i’r afael â’r heriau ariannol sylweddol sydd o’n blaenau.
Argymhelliad allweddol arall yn yr adroddiad drafft yw cynyddu Treth y Cyngor gan 7.9% ar gyfer 2023/24. Byddai hyn yn cynyddu praesept Band D o £1,253.95 i £1,353.01 (cynnydd blynyddol o £99.06 neu £1.91 yr wythnos)
Mae’n bwysig cofio, hyd yn oed pe bai cynnydd o 7.9%, bydd trigolion Caerffili yn dal i dalu llawer llai o ran Treth y Cyngor na llawer o ardaloedd cynghorau eraill ledled Cymru.
|