Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd

Gwasanaethau Cymdeithasol Caerffili

Mae'n hanfodol i chi a/neu eich gofalwr chi feddwl am yr hyn sy'n bwysig.

  • Beth sy'n bwysig i chi yn eich bywyd pob dydd?
  • A oes adegau pan mae'n anodd cyflawni'r hyn sy'n bwysig i chi?

Os ydych chi'n profi hyn, efallai ei bod hi'n bryd cael sgwrs gydweithredol gyda'n Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.

Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi rannu eich profiadau a'ch set unigryw o amgylchiadau.

Yn dilyn hyn, efallai y cewch chi eich cynorthwyo trwy gael gwybodaeth/adnoddau ychwanegol, neu efallai y cewch chi eich cyfeirio at wasanaethau eraill.

Os oes teimlad ar y cyd nad yw hyn yn ddigon o gymorth ar y pryd, efallai y bydd eich manylion chi'n cael eu hanfon at dîm Gwaith Cymdeithasol, lle byddwch chi'n cael y cyfle i gael sgwrs fanylach, ac mae modd dilyn hynny wedyn gydag asesiad o angen.

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL I BLANT GWASANAETHAU CYMDEITHASOL I OEDOLION

Diogelwch a lles

Os ydych chi'n pryderu am ddiogelwch neu les plentyn neu oedolyn sy'n agored i niwed neu os yw’n ymddangos bod gan rywun anghenion gofal a chymorth sydd ddim yn cael eu diwallu, rhowch wybod i ni:

RHOI GWYBOD AM BLENTYN MEWN PERYGL RHOI GWYBOD AM OEDOLYN MEWN PERYGL

Cymorth iechyd meddwl a lles

Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar bobl ar unrhyw adeg o'u bywyd ac mewn gwahanol ffyrdd.

Mae’n hanfodol eich bod chi'n gofalu am les emosiynol ac os oes gennych chi unrhyw bryderon am eich iechyd meddwl eich hun neu iechyd meddwl rhywun rydych chi'n gofalu amdano, dylech chi fynd at eich meddyg teulu am gyngor a chymorth yn y lle cyntaf.

Gall eich meddyg teulu chi wneud y canlynol:

  • Siarad am eich problemau chi
  • Gwirio a oes gan eich problemau chi achos corfforol
  • Rhoi meddyginiaeth i chi ar gyfer iselder, gorbryder a chyflyrau eraill
  • Gofyn i chi weld cwnselydd
  • Eich anfon chi i'r ysbyty
  • Eich atgyfeirio chi at wasanaeth priodol (eich meddyg teulu sy'n eich atgyfeirio chi i'r Gwasanaethau Cymdeithasol fel arfer)

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen we Iechyd Meddwl i Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Gofalwyr di-dâl

Os ydych chi'n ofalwr i rywun efallai y bydd modd i chi gael asesiad anghenion gofalwr. Bydd hwn yn edrych ar ba gymorth neu wasanaethau y gallai fod gennych chi hawl iddyn nhw. Gall unrhyw ofalwr sy'n darparu gofal di-dâl i rywun ag anghenion iechyd neu ofal cymdeithasol wneud cais am asesiad.

Mae yna hefyd canllaw defnyddiol, a all eich helpu gyda beth i feddwl amdano cyn eich asesiad.

Hyd yn oed os nad ydych chi eisiau cael asesiad anghenion gofalwr, efallai y byddwch chi eisiau rhywfaint o wybodaeth, cyngor neu gymorth ychwanegol i'ch helpu yn eich rôl ofalu. 

Dyma rifyn diweddaraf Newyddion Caerffili - y cylchlythyr wedi’i ysgrifennu ar gyfer gofalwyr ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Os ydych chi'n ofalwr ifanc neu'n cynorthwyo gofalwr ifanc, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we bwrpasol. Mae yna hefyd grŵp Facebook pwrpasol ar gyfer Gofalwyr Ifanc Caerffili, y gellir ei ddarganfod trwy chwilio 'Caerphilly County Borough Young Carers Group' ar Facebook.