Gofalyddion ifanc
Pwy sy’n ofalydd ifanc?
Mae gofalydd ifanc yn rhywun dan 18 oed sy’n cymryd y cyfrifoldeb o ofalu am rywun (fel arfer ei fam, tad, brawd neu chwaer) sy'n:
- sai
- anabl
- oedrannus
- yn dioddef gofid meddwl
- camddefnyddio cyffuriau a/neu alcohol
Byddai’n rhaid i ofalydd ifanc fod yn gwneud nifer o dasgau, gan gynnwys:
- Gofal cyffredinol (megis rhoi moddion, newid rhwymynnau, helpu gyda symudedd)
- Tasgau domestig (megis coginio, glanhau, golchi, smwddio, siopa)
- Cymorth emosiynol (megis gwrando ar bobl a'u cefnogi)
- Gofal arall (megis helpu gyda thasgau yn y cartref a thasgau gweinyddol eraill, talu biliau, mynd gyda’r rhywun at y meddyg neu i’r ysbyty)
Beth i’w wneud os ydych chi'n ofalydd ifanc
Os ydych chi'n meddwl eich bod chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn ofalydd ifanc, mae'n bwysig eich bod chi'n rhoi gwybod i ni am eich sefyllfa fel y gallwch chi – a'r person rydych chi'n gofalu amdano – gael yr help a'r cymorth rydych chi eu hangen
Mae gennych chi'r hawl i gael asesiad o'ch anghenion. Dylech chi gysylltu â'n Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth dros y ffôn ar 0808 100 1727 neu drwy e-bostio GCChPlant@caerffili.gov.uk
Byddan nhw'n cael sgwrs gyda chi am eich sefyllfa ac wedyn gallwch chi gael sgwrs am eich rôl ofalu gyda'r person cywir.
Pa fath o help y byddaf i'n ei gael?
Byddwn ni'n gweithio gyda chi i'ch helpu chi i fwynhau eich plentyndod drwy roi'r canlynol i chi:
- cymorth emosiynol a chyngor
- cymorth i gael help yn y cartref
- cyngor ar gael seibiant o’r gofalu
- y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau llawn hwyl
- y cyfle i gwrdd â phobl ifanc eraill a rhannu profiadau
- help gyda’ch pryderon neu anawsterau
- help i gael addysg
Sut beth yw gofalu i berson ifanc?
Mae gofalyddion ifanc yn aml iawn yn cymryd cyfrifoldebau pobl mewn oed. Mae hyn yn golygu eu bod yn aml yn peidio â chael y pethau y mae plant eraill yn eu cymryd yn ganiataol, megis cyfleodd i ddysgu, chwarae a chael hwyl.