News Centre

Mae'n tynnu at y Nadolig yng nghanol tref Caerffili

Postiwyd ar : 30 Tach 2021

Mae'n tynnu at y Nadolig yng nghanol tref Caerffili
Mae'n tynnu at y Nadolig yng nghanol tref Caerffili wrth iddi baratoi ar gyfer Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf.
 
A hithau'n cynnal y farchnad olaf ond un mewn cyfres o Farchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf ledled y Fwrdeistref Sirol, mae canol tref Caerffili ar fin cael ei thrawsnewid yn wledd aeafol gyda dros 50 o stondinau bwyd a chrefft. Bydd cacennau a brownis gan y masnachwyr rheolaidd, Popty Cara a Good and Proper Brownies, yn ogystal â chnau gyda sglein, cynnyrch Indiaidd, gwin cynnes a seidr. Bydd hefyd ddewis o addurniadau Nadolig a digonedd o stondinau anrhegion – i enwi dim ond rhai o'r cynhyrchion blasus a hyfryd a fydd ar gael!
 
Bydd y diwrnod allan Nadoligaidd i'r teulu hefyd yn cynnwys detholiad o reidiau ffair hwyl i blant a rhaglen lawn o adloniant theatr stryd o'r safon uchaf.
 
Bydd y Farchnad, sy'n cael ei chynnal ddydd Sadwrn 4 Rhagfyr, yn gyfle perffaith i ymwelwyr siopa'n lleol y Nadolig hwn. Mae gan ganol tref Caerffili ddewis o siopau annibynnol sy'n llawn syniadau ar gyfer anrhegion trawiadol, ac mae hefyd nifer o siopau'r stryd fawr, caffis a bariau.
 
Meddai'r Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Berfformiad, yr Economi a Menter, “Wrth i fis Rhagfyr ddechrau, ni fu erioed adeg bwysicach i ‘ddewis lleol’ a chefnogi'r stryd fawr leol. Mae'r busnesau hyn wrth wraidd y stryd fawr, a dylem ni eu cefnogi nhw gymaint ag y gallwn ni y Nadolig hwn.”
 
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Cardiff Road, Twyn Road, Castle Street (tua'r gogledd yn unig) a maes parcio'r Twyn, lle bydd y ffyrdd ar gau rhwng 9pm nos Wener 3 Rhagfyr a 9pm nos Sadwrn 4 Rhagfyr.
 
Bydd marchnadoedd yn cael eu cynnal ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili ar:
 
Dydd Sadwrn 4 Rhagfyr – Cardiff Road, Twyn Road, Castle Street a maes parcio'r Twyn, Caerffili
Dydd Sadwrn 11 Rhagfyr – Y Stryd Fawr, Coed Duon 
Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r digwyddiadau hyn, ewch i www.visitcaerphilly.com/cy/events, ffonio Canolfan Croeso Caerffili ar 029 2088 0011, neu e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau