Banciau Bwyd
Mae yna lawer o fanciau bwyd, pantrïau bwyd a chynlluniau Fare Share ar draws Bwrdeistref Caerffili, ac mae angen cymorth gwirfoddolwyr ar lawer ohonyn nhw i'w cynnal. Mae gwybodaeth am bob darpariaeth ar gael ar dudalen cael help i dalu am fwyd.
Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?
- Casglu bwyd/pethau ymolchi o'r mannau rhoi
- Pacio bagiau yn barod i'w casglu
- Cwrdd a chyfarch
- Trefnu stoc
Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?
- Cyfleoedd i gwrdd â phobl newydd
- Bod yn rhan o dîm cefnogol
- Mynediad at hyfforddiant priodol
Sut ydw i'n cymryd rhan?
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn unrhyw un o'r banciau bwyd, cysylltwch â Sharon Peters neu Beth Richards ar
E-bost: GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443811490