Cael cymorth gyda bwyd a hanfodion eraill

Get help paying for food

Dod o hyd i'ch banc bwyd agosaf chi

Os ydych chi’n cael trafferth bwydo eich teulu chi, mae eich banc bwyd lleol chi yn gallu darparu bwyd brys a help mewn argyfwng.

Talebau bwyd

Gallwch chi gael talebau oddi wrth Gyngor ar Bopeth, Canolfan Byd Gwaith a Mwy, meddygfeydd, ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol, ac rydych chi’n gallu eu defnyddio nhw yn eich banc bwyd lleol chi.

Prydau Ysgol am Ddim

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy'n mynychu ysgol yn amser llawn. 

Gwiriwch a ydych chi’n gymwys a gwneud gais ar-lein. 

Banciau Bwyd Trussell Trust

Yn y rhan fwyaf o achosion, er mwyn cael mynediad at fanc bwyd Trussell Trust, dylech chi gael eich atgyfeirio gan dîm Gofalu am Gaerffili neu dîm Budd-daliadau'r Cyngor, eich gweithiwr cymorth neu un o'r gwasanaethau canlynol - Cyngor ar Bopeth, Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent, Pobl ac ati.

Mae banciau bwyd Trussell Trust hefyd yn darparu parseli bwyd i ddefnyddwyr sy'n galw heibio heb atgyfeiriad os ydyn nhw'n ystyried bod y person mewn angen. Bydd y banc bwyd wedyn yn atgyfeirio’r person at Gofalu am Gaerffili i'w brysbennu a chael unrhyw gymorth ychwanegol.

  • Banc Bwyd Aberbargod (Cwm Rhymni Uchaf) - ar agor dydd Mercher (11am–1pm)
  • Banc Bwyd Rhymni (Cwm Rhymni Uchaf) - ar agor dydd Mawrth (11am–1pm)
  • Banc Bwyd Tredegar Newydd (Cwm Rhymni Uchaf) - ar agor dydd Iau (11am–1pm)
  • Banc Bwyd Rhisga - ar agor dydd Mawrth a dydd Gwener (9.30am–11.30am)
  • Banc Bwyd Taf Bargod, Nelson - ar agor dydd Llun i ddydd Gwener (9.30am–12pm)
  • Banc Bwyd Coed Duon - ar agor dydd Iau (10am–12pm)
  • Banc Bwyd Caerffili - ar agor dydd Mawrth a dydd Mercher (10am–1pm) 

Cymorth arall o ran bwyd

Mae nifer o sefydliadau cymunedol sy'n gallu eich helpu chi i gael gafael ar fwyd rhad. Cysylltwch â Thîm Gofalu am Gaerffili i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael yn eich cymuned chi.

Contact us