Gwirfoddoli

Ystyr gwirfoddoli yw ymrwymo amser ac egni er budd cymdeithas a'r gymuned a gall fod ar sawl ffurf. Yng Nghyngor Caerffili, rydyn ni'n cynnig cyfleoedd i chi wirfoddoli, nid yn unig i gynorthwyo ein gwasanaethau ni, ond hefyd i gynorthwyo trigolion sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol.  

Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael, o fentora pobl ifanc neu helpu person sy’n agored i niwed i fentro allan, i weithio yn yr awyr agored i gadw ein cefn gwlad yn edrych ar ei orau.

Faint bynnag o amser gallwch chi ei gynnig, pa bynnag sgiliau sydd gennych chi, bydden ni wrth ein bodd yn eich croesawu chi i'n tîm.