Prydau Ysgolion Cynradd

Rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi amser, ymdrech ac adnoddau sylweddol i ddatblygu a hyrwyddo bwydlenni maethlon i blant ysgol. Ein prif nod ni yw sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i fwynhau pryd o fwyd cytbwys ac iachus bob dydd, ynghyd â'r cyfle i archwilio profiadau bwyta newydd a chyffrous.

Bwydlen prydau ysgolion cynradd – Tymor yr haf 2024

Bwydlen beilot

Mae Gwasanaethau Arlwyo Caerffili yn gweithrdu bwydlen beilot newydd yn yr ysgolion isod. Dechreuodd y fwydlen hon ddydd Llun 19 Chwefror a gall newid yn ôl adborth gan ysgolion. Os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch chi am opsiynau bwydlen, gwiriwch gyda'r ysgol neu'r Gwasanaethau Arlwyo ar 01443 864055 neu, fel arall, e-bostio arlwyo@caerffili.gov.uk.

  • Ysgol Gynradd Abercarn, Ysgol Gynradd Coed Duon, Ysgol Gynradd Crymlyn, Ysgol Gynradd y Bryn, Ysgol Gynradd Cefn Fforest, Ysgol Gynradd Cwm Ifor, Ysgol Fabanod Cwmaber, Ysgol Iau Cwmaber, Ysgol Gynradd Cwmcarn, Ysgol Gynradd Cwmfelin-fach, Ysgol Iau Hendre, Ysgol Gynradd Libanus, Ysgol Gynradd Maes-y-Cwmwr, Ysgol Gynradd Markham, Ysgol Gynradd Nant-y-Parc, Ysgol Gynradd Cefn-y-pant, Ysgol Gynradd Penllwyn, Ysgol Gynradd Pentwyn-mawr, Ysgol Gynradd Plasyfelin, Ysgol Gynradd Pontllan-fraith, Ysgol Gynradd Rhiw Syr Dafydd, Ysgol Gynradd Rhisga, Ysgol Gynradd Trinant, Ysgol Fabanod Tŷ Isaf, Ysgol Gynradd Tŷ Sign, Ysgol Gynradd Tynewydd, Ysgol Gynradd Waunfawr, Ysgol Gynradd Ynysddu, Ysgol Bro Sannan, Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon, Ysgol Ifor Bach

Mae'r amserlen isod yn dangos rhifau'r wythnosau ar gyfer y fwydlen cinio ysgol am bob wythnos o’r flwyddyn ysgol 2023/2024. 

 

Wythnos yn cychwyn (2024)

Bwydlen

8 Ebrill

Wythnos 2

15 Ebrill

Wythnos 3

22 Ebrill

Wythnos 1

29 Ebrill

Wythnos 2

6 Mai

Wythnos 3

13 Mai

Wythnos 1

20 Mai

Wythnos 2

27 Mai

Wythnos 3

3 Mehefin

Wythnos 1

10 Mehefin

Wythnos 2

17 Mehefin

Wythnos 3

24 Mehefin 

Wythnos 1

1 Gorffennaf

Wythnos 2

8 Gorffennaf

Wythnos 3

15 Gorffennaf

Wythnos 1

Faint mae'n costio?

O fis Medi 2023, bydd pob disgybl yn yr ysgol gynradd yn gymwys i gael pryd o fwyd am ddim. Sylwch nad yw hyn yn cynnwys disgyblion meithrin rhan-amser sy'n gallu cael pryd o fwyd am gost.

kid with a meal

Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM) 

Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, mae cynghorau ledled Cymru yn ehangu'r fenter prydau ysgol am ddim.

Nod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw y bydd pob disgybl ysgol gynradd yn gallu cael prydau ysgol am ddim erbyn mis Medi 2023, cyn targed Llywodraeth Cymru o fis Medi 2024.  

Rydyn ni'n disgwyl cwblhau proses gweithredu'r fenter fesul cam erbyn diwedd mis Awst 2023 (gall newid gan ddibynnu ar unrhyw amgylchiadau annisgwyl a allai ddigwydd).

Mae disgyblion ysgol yn y Dosbarth Meithrin amser llawn hyd at flwyddyn 2 eisoes yn mwynhau prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Bydd cam olaf y broses yn golygu y bydd plant ym Mlwyddyn 3 hyd at Flwyddyn 6 yn eu cael nhw ym mis Medi. 

Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd – Cwestiynau Cyffredin

kid with a meal

Sut mae gwneud cais?

Os ydych chi'n cael budd-daliadau sy'n destun prawf modd, gallwch chi lenwi'r ffurflen sy'n golygu y byddwch chi hefyd yn dod yn gymwys ar gyfer y grant gwisg ysgol.

Os nad ydych chi'n cael budd-daliadau sy'n destun prawf modd, nid oes angen gwneud cais am brydau ysgol. Bydd angen i'ch plentyn roi gwybod i'r athro ei fod yn bwriadu cael cinio ysgol yn ystod y sesiwn gofrestru. Ar hyn o bryd, bydd plant yn y Dosbarth Meithrin amser llawn hyd at Flwyddyn 2 yn cael prydau am ddim, nid yw hyn yn destun prawf modd ac mae ar gael i bawb.

Ym mis Medi, bydd y fenter prydau am ddim hefyd yn cynnwys plant ym Mlwyddyn 3 hyd at Flywddyn 6, ac mae'r uchod yn wir yn yr achos hwn hefyd – gofynnwch yn yr ysgol i gael y prydau.

Diweddariadau e-bost o ran prydau ysgol

Cofrestru i gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am brydau ysgol –dewiswch ‘Prydau ysgol a chlybiau brecwast’ ar waelod y dudalen wrth ddiweddaru eich dewisiadau chi.

Cydymffurfio â'r Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion

Mae'r Dystysgrif Cydymffurfio yn awgrymu bod y bwyd a'r diodydd sydd ar gael yn ysgolion cynradd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cyd-fynd â Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013.

Am ragor o wybodaeth am brydau ysgolion cynradd, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni