Gorfodaeth Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Mae pwerau gorfodi ar gael pan fo toriad o gymeradwyaeth neu'r broses cymeradwyo.

Beth yw'r prif feini prawf ar gyfer cymryd camau gorfodi?

Byddai'r prif faes ar gyfer camau gorfodi yn cynnwys canfod a oes toriad y gofyniad i gael cymeradwyaeth wedi digwydd, sy'n cynnwys:

  • Cychwyn y gwaith adeiladu heb gymeradwyaeth
  • Torrir amod y gymeradwyaeth
  • Nid yw'r gwaith adeiladu yn cydymffurfio â'r cynigion a gymeradwywyd

Pa swyddogaethau gorfodi caiff eu rhoi ar waith?

I benderfynu os oes toriad gofyniad i gael cymeradwyaeth wedi digwydd gall y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy arfer pwerau mynediad a chyhoeddi hysbysiad atal dros dro.

Beth sy'n digwydd os oes toriad o ran y gofyniad i gael cymeradwyaeth?

Os yw datblygwr yn torri'r gofyniad i gael cymeradwyaeth y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy, efallai bydd y Corff yn cyhoeddi hysbysiad gorfodi. Gellir rhoi hysbysiad gorfodi ar unrhyw adeg cyn mabwysiadu system ddraenio ar gyfer y gwaith adeiladu, ond ddim hwyrach na 4 blynedd ar ôl i'r toriad ddigwydd. Efallai bydd hysbysiad gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i'r datblygwr gymryd camau penodol i'w gywiro.

A ellir gwneud apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi?

Bydd gan y troseddwr yr hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad hwn i Weinidogion Cymru.

Sut allaf hysbysu am doriad?

Os ydych yn amau fod toriad wedi digwydd, cysylltwch â ni.

Bydd angen i ni wybod : 

  • Cyfeiriad a chod post llawn y safle
  • Manylion llawn o’r gweithgareddau sy’n effeithio arnoch
  • Pryd dechreuodd y gweithgareddau
  • Os ydych yn gwybod, enwau a chyfeiriadau unrhyw berchenogion, meddianwyr neu gwmnïau sy’n cymryd rhan

Er y byddwn i ddechrau yn cadw eich cwyn yn gyfrinachol, efallai bydd yn angenrheidiol i ddatgelu os bydd y mater yn cyrraedd apêl neu’n mynd i’r llys.

Mwy o wybodaeth am Gorff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Cysylltwch â ni