Oes angen caniatâd arnaf?

O 7 Ionawr 2019, bydd yn ofynnol i holl ddatblygiadau newydd o fwy nag un tŷ, neu ble mae ardal yr adeiladu yn 100m2 neu'n fwy, gael draenio cynaliadwy er mwyn rheoli dŵr wyneb ar y safle.

Rhaid i systemau draenio dŵr wyneb gael eu cynllunio a'u hadeiladu yn unol â safonau ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. 

Mae copi o'r Safonau Cenedlaethol Statudol ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy ar gael ar y ddolen isod:

Rhaid i'r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol sy'n gweithredu yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy cyn i'r gwaith adeiladu gychwyn. Bydd gan y Cyrff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ddyletswydd i fabwysiadu systemau cydymffurfio cyhyd ag y caiff ei adeiladu ac yn gweithredu'n unol â'r cynigion a gymeradwywyd, gan gynnwys unrhyw amodau gymeradwyaeth gan y Cyrff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy.

Ni all gwaith adeiladu sydd â goblygiadau o ran draenio gychwyn oni bai bod system ddraenio ar gyfer y gwaith wedi'i gymeradwyo gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy. 

Diffinnir gwaith adeiladu yn y Rheoliad fel unrhyw beth a wneir o ran, mewn cysylltiad â, neu'n paratoi ar gyfer creu adeilad neu strwythur arall, ac mae gan waith adeiladu goblygiadau o ran draenio os bydd adeilad neu strwythur yn effeithio ar y gallu tir i amsugno dŵr glaw. Dylid nodi, ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae unrhyw beth sy'n cwmpasu tir, megis patio neu arwyneb arall yn strwythur at ddibenion cymeradwyaeth.

Mwy o wybodaeth am Gyrff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Cysylltwch â ni