Canllawiau Technegol Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn datblygu Llawlyfr Dylunio a Mabwysiadu Draenio Cynaliadwy sy'n berthnasol i bob datblygiad o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili gyda'r bwriad o helpu'r holl randdeiliaid i ddeall y prosesau a'r gweithdrefnau sy'n ymwneud â gweithredu draenio cynaliadwy sy'n cydymffurfio.

Bwriad y llawlyfr hwn yw cefnogi'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy wrth benderfynu ar gymeradwyaethau, ac i'w defnyddio gan ddatblygwyr, cynllunwyr, dylunwyr ac awdurdodau mabwysiadu sydd yn ceisio cyngor ynghylch y safonau technegol sydd eu hangen arnom ar safleoedd newydd ac wedi'u hailddatblygu ar gyfer rheoli dŵr wyneb yn gynaliadwy.

Nid bwriad y llawlyfr yw disodli, neu ailysgrifennu dogfennau arfer gorau neu statudol ond i egluro sut y gellir cymhwyso yn y ffordd orau y gwybodaeth yn y dogfennau hyn yn achos Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a nodi'r gofynion, gweithdrefnau ac ystyriaethau ychwanegol sy'n benodol i Systemau Draenio Cynaliadwy ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Cadwch lygad ar ein gwefan am ragor o wybodaeth.

Profi Ymdreiddiad

Mae'r Llawlyfr SDCau (CIRIA C753) yn nodi mai un o'r prif risgiau i berfformiad ffos gerrig yw profion ymdreiddiad annigonol oherwydd cyfyngiadau amser neu gost yn y cyfnod cynllunio cynnar.

Nid yw’r “Safonau statudol ar gyfer systemau draenio cynaliadwy – dylunio, adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw systemau draenio dŵr wyneb” (y cyfeirir atynt fel y "Safonau Cenedlaethol") yn rhagnodi methodoleg benodol ar gyfer penderfynu athreiddedd daear a chydnabyddir bod nifer o ddulliau gwahanol yn ymarferol ar hyn o bryd. Mae G1.14 o'r Safonau Cenedlaethol, fodd bynnag, yn cyfeirio at y canllawiau sydd ar gael yn y Llawlyfr SDCau (C753) o ran dylunio systemau ymdreiddio.

Mae adran 25.3 y Llawlyfr SDCau yn argymell y dylai profion ymdreiddio gael eu cynnal yn unol â'r un o'r gweithdrefnau canlynol:

Yn yr un modd, mae Rheoliadau Adeiladu Rhan H3 hefyd yn nodi y dylid dylunio ffosydd cerrig sy'n gwasanaethu mwy na 100m² yn unol â BRE Digest 365. 

Gan fod y trothwy ar gyfer safleoedd sydd angen cymeradwyaeth gan y Corff Cymeradwyo SDCau yn 100m², ni dderbynnir profion cyfradd ymdreiddio oni bai ei fod wedi'u gwneud yn unol â gofynion llawn BRE Digest 365 (2016) (dewisol) neu adroddiad CIRIA 156. 

Caiff dulliau eraill o brofi, megis profion pen cwympo yn unol â BS EN ISO 22282 - 2:2012 / BS5930:2015 neu'r dulliau pwll treial bach (300mm x 300mm) a amlinellir yn BS 6297:2007+A1:2008 neu Reoliadau Adeiladu Rhan H ond eu derbyn mewn amgylchiadau eithriadol lle ceir rhesymau technegol dilys pam nad yw profion ymdreiddiad yn unol â BRE Digest 365 (2016) neu adroddiad CIRIA 156 yn bosibl. 

Lle cynigir defnyddio dulliau amgen, argymhellir trafod a chytuno ar hyn gyda'r Corff Cymeradwyo SDCau yn y cam cyn-ymgeisio neu cyn cyflwyno’r cais.

Pa adnoddau sydd ar gael?

Ceir cyfoeth o wybodaeth ar-lein o ran sicrhau cydymffurfio â systemau draenio cynaliadwy. Rydym yn argymell eich bod yn darllen y canlynol cyn cysylltu â ni neu cyn gwneud cais ffurfiol:

Mwy o wybodaeth am Gyrff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Cysylltwch â ni