Tîm Cymorth Cyflogaeth Caerffili - Astudiaethau Achos
Mae ein holl gymorth yn ymwneud â'n cyfranogwyr - gallwn weithio gyda chi am gyhyd ag y mae'n ei gymryd i'ch cyrraedd lle rydych chi eisiau bod. Rydyn ni'n deall y gall hyder a hunan-barch weithiau ei gwneud yn anodd i chi weithio tuag at eich nodau.
Rydyn ni yma i'ch helpu chi i adeiladu'ch hyder a gwella'ch hunan-barch fel y gallwch chi gyrraedd eich llawn botensial. Cliciwch isod i ddarllen am rai o’r cyfranogwyr rydyn ni wedi’u cynorthwyo hyd yn hyn.
Richard ysbrydoledig
Mae Richard Lintern yn ddyn 43 oed ac wedi bod yn ddi-waith ers 23 mlynedd oherwydd problemau iechyd meddwl a chaethiwed i gyffuriau. Ceisiodd Richard ladd ei hun yn 2017 a chafodd ei gadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Roedd Richard dros ei bwysau ac ar ôl bod yn yr ysbyty, penderfynodd fod angen iddo newid ei fywyd. Dechreuodd hyfforddi a mynd i'r gampfa i wella ei iechyd meddwl ac i ddod yn fwy ffit. Roedd yn benderfynol o beidio â throi yn ôl at y cyffuriau.
Gweithiodd Richard yn galed iawn gyda ffocws clir ar wella ei iechyd.
Llwyddodd Richard i gael cyfweliad am swydd lanhau ac fe wnaethon nhw argymell ei fod yn ymgysylltu â Thîm Cyflogaeth Caerffili. Fe wnaeth hynny a chwblhau ei gerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu, sydd wedi ei alluogi i gael gwaith rhan amser.
Mae Richard bellach yn fwy hyderus ac yn hapusach nag y bu erioed ac yn benderfynol o aros yn ‘lân’. Mae Richard yn enghraifft wych o un o’n llwyddiannau ac mae ei benderfyniad yn ysbrydoledig.
Rydyn ni'n dymuno'r gorau i chi yn y dyfodol!
Swydd newydd yn rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol i Tiana!
Roedd Tiana, sy’n byw yng Nghwm Rhymni Uchaf, wedi bod yn ddi-waith ers tua 10 mis. Fe gafodd ei argymell bod Tiana yn ymgysylltu â hyfforddwr gwaith o dîm Cymorth Cyflogaeth Caerffili, sy’n cynnig amrywiaeth eang o gymorth i bobl sy’n dymuno cael gwaith neu newid rolau yn eu cyflogaeth bresennol.
Roedd Tiana wedi gwneud cais am lawer o swyddi ar-lein ac nid oedd wedi pasio'r cam ymgeisio, er ei bod wedi cwblhau cymhwyster arlwyo mewn coleg.
Ymgysylltodd Tiana â’i hyfforddwr gwaith, a helpodd hi i ddatblygu ei CV, rhoi technegau cyfweld iddi, ymarfer rhai cwestiynau cyfweliad a rhoi cyfle i Tiana gwblhau ei Thystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol.
Fe wnaeth Tiana gais am swydd Goruchwylydd Clwb Brecwast mewn ysgol a chynorthwyydd cinio mewn ysgol arall. Cafodd Tiana ei gwahodd am gyfweliad ar gyfer y ddwy swydd ac fe gafodd hi gynnig y ddwy.
Mae'r swyd Swydd newydd yn rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol i Tiana!