Gwybodaeth Am Tîm Cymorth Cyflogaeth Caerffili
Mae’r cymorth yn wirfoddol ac mae modd i'n mentoriaid cyflogaeth profiadol gwrdd â chi ar sail un i un yn eich cymuned leol am sgwrs anffurfiol er mwyn i chi drafod a yw’r cymorth yn addas i chi (rydym yn siŵr y bydd!).
Yr Academi
Mae'r Academi yn darparu mentora ar gyfer gweithwyr, prentisiaid a hyfforddeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC).
Mae’r Academi yn darparu rhwydwaith Gyrfaoedd Cynnar a llwybrau datblygu i adeiladu a chynnal gweithlu’r dyfodol.
Ochr yn ochr â gweddill y tîm, mae'r Academi yn darparu cymorth recriwtio wedi'i dargedu i adrannau CBSC.
Ydych chi'n gyflogwr lleol?
Gall ein tîm Cyswllt Busnes ymroddedig eich helpu chi i lenwi'ch swyddi gwag a sicrhau bod gennych chi'r ymgeiswyr gorau i'w cyfweld.
Gall ein cyfranogwyr dderbyn hyfforddiant cyfredol fel bod gennych weithwyr cymwys yn gweithio i chi.
Gwybodaeth Am Ariannu
Mae ein Tîm Cyflogadwyedd yn cynnwys Cymunedau am Waith a Mwy a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Gan ddefnyddio’r ffrydiau ariannu hyn, rydyn ni bellach yn gallu cynnig mwy o gymorth nag erioed o’r blaen!
Mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o golofnau canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i'w fuddsoddi'n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw meithrin rhagor o falchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y Deyrnas Unedig drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.