Gwastraff heb ei gasglu
Rhesymau pam efallai nad yw'ch bin wedi'i wagio
Mae yna nifer o resymau pam efallai nad ydym wedi gwagio'ch bin, mae'r rhain yn cynnwys:
- Rhoddwyd eich bin allan i'w gasglu'n hwyr. Rhaid i'ch bin fod yn eich man casglu erbyn 6am ar ddiwrnod y casglu.
- Mae eich bin yn cynnwys yr eitemau anghywir. Beth sy'n mynd yn fy miniau?
- Rhoddwyd y bin anghywir i'w gasglu. Pa ddiwrnod mae fy min yn cael ei gasglu?
- Roedd eich bin yn anniogel i'w symud, (er enghraifft roedd dros ei bwysau, olwynion wedi torri neu waelod wedi torri) Gofynnwch am fin newydd
- Roedd eich bin yn orlawn. Os na fydd y caead yn cau'n llawn, bydd unrhyw wastraff gormodol yn cael ei roi yn ôl yn y bin.
Os nad ydym wedi casglu'ch gwastraff am unrhyw un o'r rhesymau hyn, bydd angen i chi ei gyflwyno'n gywir ar y diwrnod casglu nesaf a drefnwyd. Ni fyddwn yn dod yn ôl i'w wagio.
Rhesymau eraill pam efallai nad yw'ch bin wedi'i wagio
Mae yna amgylchiadau eraill pan efallai na fyddwn ni'n gallu gwagio'ch bin:
- Methu â chael mynediad i'r stryd neu'r eiddo - gall hyn fod yn ddigwyddiad traffig, gwaith ffordd, cerbyd sydd wedi torri i lawr neu geir wedi'u parcio.
- Cerbyd casglu wedi torri i lawr
- Problem gyda'r cerbyd casglu
- Maint anarferol o fawr o wastraff - mae hyn yn arafu'r broses gasglu gan fod angen gwagio'r cerbyd casglu yn amlach. Mae hyn weithiau'n ein hatal rhag cwblhau ein llwybr a drefnwyd.
- Tywydd garw – gall rhai amodau tywydd, fel llifogydd neu eira, atal y cerbyd casglu rhag cyrraedd eich stryd yn ddiogel.
Os nad ydym wedi casglu'ch gwastraff am unrhyw un o'r rhesymau hyn, bydd angen i chi ei gyflwyno'n gywir ar y diwrnod casglu nesaf a drefnwyd. Ni fyddwn yn dod yn ôl i'w wagio.
Rhoi gwybod am gasgliad a gollwyd
Cyn i chi roi gwybod am gasgliad a gollwyd, nodwch y casgliadau coll hysbys canlynol:
Ardal yr effeithir arni
|
Math o fin
|
Rheswm dros beidio â chasglu
|
Dyddiad yr effeithir arno
|
Dol-y-Felin St Caerphilly | Ailgylchu | Methu â chael mynediad i'r stryd neu'r eiddo | 17/3/23 |
Nid oes angen i chi rhoi gwybod am rhain fel casgliadau a gollwyd. Gadewch eich bin y tu allan i'ch eiddo, a byddwn yn ei gasglu'r diwrnod gwaith nesaf.
Rhoi gwybod am gasgliad biniau a gollwyd
Fel arall, ffoniwch Strategaeth Gwastraff a Gweithrediadau.