Pryd y mae gwastraff yn cael eu casglu?
Rydym yn cynnal 14 miliwn o gasgliadau bob blwyddyn i dros 80,000 o eiddo ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Ein hystod o gasgliadau ymyl y ffordd ac amlder casglu yw:
- gwastraff bwyd bob wythnos
- gwastraff gardd bob wythnos
- ailgylchu bob wythnos
- sbwriel bob pythefnos
I ddod o hyd i'ch diwrnodau casglu gwastraff, cliciwch ar y ddolen isod. Rhowch eich cod post, dewiswch eich eiddo yn y rhestr a dewiswch 'Ewch'. Sylwch, teipiwch y cod post yn y fformat canlynol AB12 3CD (sicrhewch fod bwlch).
Byddwch yn gallu lawrlwytho calendr i'ch dyfais neu i'w argraffu er mwyn cyfeirio ato yn y dyfodol.
Noder:
- Sicrhewch fod yr holl wastraff ac ailgylchu allan i'w casglu erbyn 6am.
- Rhaid i chi allu storio eich biniau oddi ar y briffordd rhwng casgliadau.
- Dydy gwyliau banc ddim yn effeithio ar gasgliadau gwastraff. Nid ydym yn casglu dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Byddwn yn hysbysebu trefniadau amgen ar y wefan yn nes at yr amser.
- Rhowch ailgylchu ychwanegol wrth ymyl y ffordd mewn bagiau clir.
- Dydyn ni ddim yn casglu cardbord gwlyb, felly sicrhewch ei fod yn sych.
- Torrwch ddarnau mawr o gardbord yn ddarnau hylaw. Rhowch yn eich bin ailgylchu neu mewn bagiau clir wrth ymyl eich bin.
- Gall tywydd garw amharu ar ein gwasanaethau oherwydd problemau mynediad i gerbydau. Os bydd hyn yn amharu ar wasanaethau, ein nod fydd casglu erbyn diwedd yr wythnos. Mae’n bosibl na fyddwn yn gallu casglu os bydd yr amodau hyn yn para mwy nag wythnos. Yn yr achos hwn, bydd trefniadau amgen yn cael eu dangos ar y wefan hon.
Am ragor o gyngor pellach, cysylltwch â ni.