Casglu gwastraff cewynnau

I wneud cais am y gwasanaeth hwn, rhaid i chi:

  • Fod â dau neu fwy o blant cyn oed ysgol mewn cewynnau drwy'r amser, a’ch bod chi’n
  • Defnyddio'r ystod lawn o wasanaethau rydyn ni'n eu darparu, megis ailgylchu ac ailgylchu gwastraff bwyd.

Dydyn ni ddim yn codi tâl am y gwasanaeth hwn.

Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio

Bydd angen i aelod o'r tîm gwastraff ymweld â'ch eiddo chi. Bwriad yr ymweliad hwn yw asesu os ydych chi'n defnyddio'r gwasanaethau ailgylchu sydd ar gael i chi.

Byddwn ni'n gwirio:

  • Nad yw eich biniau ailgylchu chi wedi'u halogi
  • Nad oes gwastraff bwyd/deunydd ailgylchu yn eich bin sbwriel
  • Eich bod chi'n ailgylchu gwastraff bwyd.

Byddwn ni'n adolygu eich cais chi ymhen 12 mis i asesu a oes angen y gwasanaeth o hyd.

Rhowch y biniau wrth ymyl y ffordd er mwyn eu cyfnewid. Byddwch chi'n cael e-bost gyda'r dyddiad dosbarthu/cyfnewid.

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, ni fydd modd ei ddiwygio.

Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo, byddwch chi'n cael bin olwynion mwy yn lle eich bin olwynion presennol.

Gwnewch gais nawr
 
Sylwer, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio yn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome, neu Safari

Cewynnau go iawn

Pam ddylech chi brynu cewynnau go iawn?

  • Arbed arian...
  • Yn well i'r amgylchedd...
  • Yn ffasiynol, cyfforddus a modern

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am gewynnau go iawn

Cysylltwch â ni

Tudalennau Cysylltiedig

Gwaredu gwastraff hylendid