Casglu eitemau swmpus

Gallwch chi ofyn i ni gasglu hyd at 6 eitem swmpus fel soffas, gwaelod gwelyau a matresi.

Rhoi eitemau

Cyn i chi ofyn i ni gasglu unrhyw eitemau diangen, ystyriwch yr opsiynau canlynol:

  • Os yw'r eitem mewn cyflwr da ac mae modd ei hailddefnyddio hi, gallwch chi ei rhoi hi i'n siop ailddefnyddio.
  • Fel arall, bydd Furniture Revival yn casglu celfi ac eitemau trydanol sydd mewn cyflwr dda, am ddim. Byddan nhw hefyd yn casglu oergell-rewgelloedd Americanaidd, oergell-rewgelloedd, oergelloedd dan y cownter, rhewgelloedd dan y cownter a rhewgistiau am dâl o £16 (nid yw'r Cyngor yn gallu casglu unrhyw fath o oergell na rhewgell). I drefnu casgliad, ffoniwch 01685 846830.
  • Mae modd mynd â'ch eitemau diangen i'ch canolfan ailgylchu gwastraff y cartref agosaf. Mae hyn ar gyfer gwastraff y cartref yn unig. Os oes angen i chi ddefnyddio fan neu drelar, bydd angen trwydded arnoch chi. Am ragor o fanylion, ewch i'r adran faniau a threlars.
  • Yn aml, bydd llawer o gwmnïau'n mynd â'ch hen eitemau i ffwrdd pan fyddan nhw'n dosbarthu'r un newydd. Bydd hyn yn aml am ddim neu weithiau am dâl bach, a dylech chi drefnu hyn gyda'ch cyflenwr.

Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio

  • Dewiswch yr eitemau a'r dyddiad casglu wrth archebu ar-lein.
  • Dyma'r costau:
    • £18.34 am 1 i 3 eitem
    • £24.08 am 4 eitem
    • £29.81 am 5 eitem
    • £35.54 am 6 eitem (uchafswm)
  • Gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd yw hwn. Rhowch yr eitemau o flaen yr eiddo, heb unrhyw berygl baglu.
  • Mae'r gwasanaeth casglu rhwng 5.30am a 1.30pm. Rhowch yr eitemau yn y man casglu y noson cynt.
  • Dim ond yr eitemau wedi'u cofnodi ar yr archeb y byddwn ni'n eu casglu.
  • Rhaid cadw'r eitemau'n sych. Os byddwch chi'n rhoi eitem allan a allai amsugno dŵr (er enghraifft soffa neu fatres), gorchuddiwch hi. Gall eitemau gwlyb fod yn rhy drwm i'w codi ac efallai na fyddan nhw'n cael eu casglu.
  • Rhaid sicrhau nad oes ysgarthion ar yr eitemau. Ni fydd unrhyw eitemau ag ysgarthion arnyn nhw yn cael eu casglu.
  • Rhaid lapio/tapio eitemau sy'n cynnwys gwydr.

Nid oes gostyngiad ar gael.

Ar ôl cyflwyno eich cais, ni fydd modd ei newid.

Dim ond os byddwch chi'n canslo eich cais fwy na dau ddiwrnod gwaith cyn y dyddiad casglu y bydd modd prosesu ad-daliad oherwydd canslo.

Dyma rai enghreifftiau:

Mae gwely bync heb fatres yn cyfrif fel dwy eitem.
Mae set dridarn yn cyfrif fel tair eitem.
Mae bwrdd a phum cadair yn cyfrif fel chwe eitem.

Eitemau rydyn ni'n eu casglu

  • Gosodiadau a ffitiadau (mewnol ac allanol)
  • Eitemau amrywiol i'r cartref (er enghraifft gât babanod, bwrdd smwddio, a thanc pysgod)
  • Celfi i'r cartref
  • Nwyddau gwynion (ac eithrio oergelloedd, rhewgelloedd, ac oergell-rewgelloedd)
  • Eitemau trydanol

Mae'r eitemau rydyn ni'n eu casglu yn cael eu paratoi ar gyfer eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu.

Eitemau na fyddwn ni'n eu casglu

  • Asbestos
  • Twbâu twym
  • Drymiau cemegion
  • Gwastraff clinigol
  • Boeleri, poteli nwy neu danciau olew
  • Gwydr wedi torri
  • Gwastraff adeiladu neu ddymchwel
  • o safleoedd masnachol
  • Gwastraff peryglus o'r cartref
  • Gwastraff masnachol

Bydd rhai o'r eitemau hyn yn cael eu derbyn yn ein canolfannau ailgylchu.

Archebu nawr
 
Noder: Ni fydd y ffurflen hon yn gweithio yn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern, fel Edge, Chrome neu Safari

Casgliadau y mae modd rhoi dyfynbris ar eu cyfer

Bydd angen i ni ddarparu dyfynbris i chi:

  • os oes gennych chi fwy na 6 eitem; neu
  • os oes angen i chi ofyn am gasglu un neu ragor o'r eitemau ‘y mae modd rhoi dyfynbris ar eu cyfer’.

Eitemau y mae modd rhoi dyfynbris ar eu cyfer

  • Sied yr ardd (6'x8' ar y mwyaf, wedi'i datgymalu)
  • Piano (wedi'i ddatgymalu)
  • Tŷ gwydr (wedi'i ddatgymalu) 6'x8'
  • Rheiddiadur
  • Stôr-wresogydd (gyda brics)
  • Stôr-wresogydd (heb frics)
  • Systemau gwres canolog
  • Pren
  • Cafnau
  • Gwastraff swmpus o'r ardd

Bydd gofyn i chi ddarparu ffotograffau o'r eitem/eitemau. Mae hyn er mwyn i ni allu darparu dyfynbris heb orfod ymweld â'ch eiddo.

Wrth ofyn am ddyfynbris, os oes gennych chi fwy na'r hyn sy'n cyfateb i 6 eitem, dewiswch ‘Arall’ yn y rhestr ac yna rhestru'r eitemau.

Byddwn ni'n anfon y dyfynbris atoch chi o fewn 5 diwrnod gwaith. Bydd hyn yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i dalu drwy ddefnyddio eich cyfrif Cyswllt Caerffili.

Gofyn am ddyfynbris
 
Noder: Ni fydd y ffurflen hon yn gweithio yn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern, fel Edge, Chrome neu Safari.