Trwyddedau ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Faniau a Threlars
Os ydych yn gyrru car, car stad neu 4x4 caeedig (lle mae'r gist a'r seddi wedi'u hamgáu o fewn yr un ffrâm, gweler y llun isod) ni fydd angen trwydded arnoch. Bydd pob ymweliad yn parhau i fod yn rhad ac am ddim ac nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y nifer o weithiau y gallwch chi fynd.
Os ydych yn dymuno defnyddio fan, trelar neu gerbyd o fath masnachol i waredu gwastraff mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGyC), rhaid i chi gael trwydded ac efallai y bydd tâl yn dibynnu ar y math o wastraff yr ydych yn cael gwared arno.
Ni fydd faniau mawr 3,500cilogram ac uwch fel faniau Luton, lorïau tipio a threlars yn fwy na 1.8m o hyd, yn gallu defnyddio'r safleoedd hyn.
Dim ond preswylwyr bwrdeistref sirol Caerffili sydd â'r hawl i ddefnyddio ein safleoedd. Wrth gasglu eich trwydded, bydd angen i chi ddarparu prawf preswylio a dogfen gofrestru'r cerbyd (V5).
Bydd y drwydded yn ddefnydd untro a rhaid ei chyflwyno ar y safle. Bydd gan drigolion hawl i gael hyd at chwe thrwydded fan am ddim o fewn cyfnod o 12 mis. Mae'r chwe thrwydded yn berthnasol i'r cyfeiriad a'r cerbyd.
Bydd gofyn i chi gael trwydded os ydych chi’n berchen ar:
- cerbyd amlbwrpas (MPV)
- cerbyd gwersylla
- cerbyd gyda mwy na phum sedd.
Bydd angen 1 drwydded i geir sy'n tynnu trelar a bydd angen 2 drwydded i faniau sy'n tynnu trelar.
Os ydych yn bwriadu benthyg fan i waredu gwastraff y cartref, rhaid i chi:
- gael llythyr awdurdodedig oddi wrth berchennog cofrestredig y fan
- bydd angen i chi hefyd ddarparu prawf o’ch preswylfa
- y ddogfen V5
- manylion cyswllt y perchennog cofrestredig.
Fydd rhaid i chi sicrhau eich bod wedi yswirio yn iawn i’w yrru.
Ni chaniateir cerbydau masnachol gyda logos ar unrhyw un o'n safleoedd.
I ddefnyddio’r safleoedd gyda cherbyd wedi ei logi, rhaid i chi hefyd ddarparu cytundeb llogi pan rydych yn ceisio am drwydded.
Os ydych chi'n dymuno gadael gwastraff ar ran rhywun arall, mae'n rhaid i chi ddarparu:
- dogfen V5 y cerbyd yn ogystal
- cyfeiriad lle mae'r gwastraff wedi'i gynhyrchu
- prawf preswyl y cyfeiriad lle mae'r gwastraff yn cael ei gynhyrchu
Bydd angen i chi gael eich trwydded o leiaf 24 awr cyn ei defnyddio ond dim mwy na phythefnos ymlaen llaw. Noder, fydd eich cais yn cael eu prosesu yn ystod oriau gweithio Dydd Llun i Dydd Gwener.
Tacsis
Does dim cyfyngiadau ar geir sy'n cael eu defnyddio fel tacsis ar yr amod eu bod yn cael gwared ar wastraff y cartref eu hunain.
Bydd angen trwydded ar gerbydau tacsi sydd ag 8 sedd i waredu eu gwastraff y cartref. Mae'r trwyddedau hyn yn rhad ac am ddim, gyda hawl i chwech y flwyddyn.
Ni chaniateir bysiau mini ar y safle.
Gwastraff masnachol
Gwaherddir gadael gwastraff masnachol neu fusnes yn llym ar bob un o'r chwe safle.
Os yw'r gwastraff yn dod o fusnes neu'n cael ei gynhyrchu o weithgareddau masnachol, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau ei fod yn cael ei waredu drwy gyfleuster trwyddedig priodol.
Mae contractau gwastraff masnachol ar gael gennym ni neu gwmnïau eraill.
Amser trwyddedau
Mae amser a dyddiau dynodedig i ymweld â'n safleoedd mewn faniau neu drelars fel y dangosir isod. Gofynnir i chi am eich dewis wrth gael y drwydded.
- Rhymni - dydd Llun 2pm i 4pm a dydd Iau 10am i 12pm
- Aberbargod - dydd Mercher 2pm i 4pm a dydd Gwener 10am i 12pm
- Penallta - dydd Mawrth 2pm i 4pm a dydd Sadwrn 10am i 12pm
- Penmaen - dydd Mercher 10am i 12pm a dydd Iau 2pm i 4pm
- Trehir - dydd Mawrth 10am i 12pm a dydd Gwener 2pm i 4pm
- Lleuad Lawn (Crosskeys) - dydd Llun 10am i 12pm a dydd Sadwrn 2pm i 4pm
Rhaid defnyddio trwyddedau yn y safle a ddewiswyd ar y dyddiad a'r amser a nodir ar y drwydded. Os byddwch chi'n mynychu ar unrhyw adeg, dyddiad neu safle arall neu os yw'ch trwydded wedi dod i ben, cewch eich gwrthod.
Os oes angen i chi newid unrhyw un o'r manylion hyn, mae'n rhaid i chi gysylltu’n gyntaf i gael ganiatâd.
Gwaredu gwastraff y cartref
Beth yw gwastraff cartref?
Diffinnir gwastraff cartref fel gwastraff o'ch cartref a'ch gardd NAD yw wedi dod o unrhyw waith adeiladu, dymchwel, atgyweirio neu addasu i'ch cartref. Mae enghreifftiau o wastraff cartref yn cynnwys dodrefn, carpedi, gwastraff gardd, sbwriel cyffredinol ac eitemau trydanol.
Bydd angen trwydded (am ddim) ar y cerbydau canlynol sy'n cludo gwastraff cartref i gael mynediad i'r safleoedd hyn:
- Faniau bach a chanolig fel maint 'Transit' (3,499kg ac is)
- Cerbydau 4x4 agored (lle mae'r ardal eistedd mewn cab ar wahân i'r gist, gan gynnwys cerbydau tryciau agored a chaeedig)
- neu'n tynnu ôl-gerbydau bach (llai na 1.8m o hyd)
Gwastraff Adeiladu a Dymchwel (gan gynnwys deunyddiau peryglus)
Mae modd mynd â symiau bach o wastraff adeiladu a dymchwel (6 bag y diwrnod) i'r safle mewn car, fodd bynnag codir tâl ar gyfer faniau a threlars sy'n dod â gwastraff adeiladu, a dymchwel gwastraff peryglus i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi megis pridd, cerrig, ffenestri, drysau, ystafelloedd ymolchi, dodrefn cegin er enghraifft.
Mae'r ffioedd fel a ganlyn
- £37.49 ar gyfer faniau bach a threlars (hyd at 2,200kg a threlars sy'n llai na 1.8m o hyd)
- £74.97 ar gyfer faniau canolig (2,201kg- 3,499 kg)
Nid oes cyfyngiad i'r nifer o weithiau y gellir prynu trwydded.
Y cyfyngiadau ar gyfer deunyddiau peryglus yw:
- 5 teiar car
- 6 o fagiau o blastr fwrdd
- 6 o fagiau/dalennau o asbestos (wedi bagio ddwywaith/ wedi lapio mewn polythen trwch 1000)
- 10 tun o baent
- 3 o boteli nwy gwydr
Derbynnir deunyddiau peryglus ym Mhenallta, y Lleuad Lawn (Cross Keys), Trehir ac Aberbargod. Ni dderbynnir rhai deunyddiau ar unrhyw safle megis petrol, disel, gwastraff gwenwynig ac ymbelydrol, ffrwydron, er enghraifft.
Cais Trwyddedau Faniau a Threlars
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!
Gellir gwneud ceisiadau am drwyddedau yn bersonol yn Nhŷ Penallta trwy drefnu apwyntiad. Gallwch wneud apwyntiad drwy ffonio 01443 866571 neu e-bostio rhpc@caerffili.gov.uk
Nodwch, ni fyddwch yn gallu mynychu Tŷ Penallta heb apwyntiad a dim ond taliadau cerdyn a dderbynnir os codir tâl.
Proses bwcio trwyddedau faniau a threlars (PDF)
Telerau ac amodau trwydded fan a threlar (PDF)
Rhestr lawn o'n meini prawf derbyn gwastraff
Cwestiynau cyffredin