Trafferth wrth dalu’ch bil

Os ydych yn cael trafferth gwneud taliadau rheolaidd peidiwch ag anwybyddu'r sefyllfa gan y gallai hyn olygu bod angen i chi dalu costau pellach ar ben yr hyn sy'n ddyledus gennych.  Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau, gallwn ofyn i chi am fanylion o ran eich incwm a gwariant i'ch helpu i ddod i drefniant talu derbyniol.

Ar incwm isel?

 Os ydych ar incwm isel efallai y gallwch hawlio gostyngiad treth y cyngor.

Cyngor am ddim os oes gennych broblemau ariannol

Gallwch dderbyn cyngor dyled am ddim oddi wrth:

​Am fwy o gymorth ymwelwch â’n hadran dyled a chyllido.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn talu?

  •  Pe baech yn colli taliad, cewch hysbysiad atgoffa yn rhoi saith niwrnod i chi sicrhau bod eich taliadau'n gyfoes.

  • Os na wnewch hynny o fewn yr amser neu ar ôl cael eich atgoffa eich bod yn hwyr gyda'ch taliadau eto ac nad ydych yn eu diweddaru yn ôl yr angen, byddwn yn rhoi hysbysiad i chi yn canslo eich hawl i randaliadau ac yn gofyn ichi dalu'r balans ddyledus yn llawn.

  • Os na thelir y balans, byddwn yn cyflwyno gwŷs am y swm sy’n weddill yn ogystal â chostau

  • ​Ein costau gwŷs yw £48.00.

Gorchmynion Dyled

Gallwn ymgeisio i lys yr ynadon am Orchymyn Dyled. Cewch wŷs yn rhoi gwybod i chi pryd fydd y llys yn ystyried y cais a'r swm yr ydym yn ceisio ei adennill. Bydd y swm hwn yn cynnwys treth y cyngor sy’n weddill a’r costau sy'n gysylltiedig â gwneud y cais. Mae ein costau gŵys yn £48.00 gyda chostau gorchymyn dyled o £20.00, gan wneud cyfanswm o £68.00. Mae gennych hawl i fynychu gwrandawiad y llys a chynnig tystiolaeth o ran pam na ddylid gwneud y gorchymyn.

Os bydd y llys yn cyflwyno Gorchymyn Dyled, mae gennym hawl cyfreithiol i ofyn am rywfaint o wybodaeth gennych chi o ran eich cyflogaeth a’ch incwm i’n helpu ni i benderfynu sut i adennill y ddyled. Mae'n rhaid i chi yn ôl y gyfraith roi’r wybodaeth hon i ni.

Dyma’r prif opsiynau o ran adennill: -

  • Gorchymyn Atafaelu Enillion – Gallwn orchymyn eich cyflogwr i adennill y swm yn uniongyrchol o’ch tâl neu gyflog a’i dalu’n uniongyrchol i ni.

  • Didyniadau o Didyniadau gan Gredyd Cynhwysol/Gymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith/Lwfans Cefnogaeth a Chymorth a Chredyd Pensiwn - Os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau hyn byddwn yn gallu gwneud cais am ddidyniadau uniongyrchol o’r budd-dal. Didynnir 5% o’r lwfans personol ar gyfer hawlydd unigol heb fod yn ieuengach na 25 oed. 

  • Cyfarwyddo asiant gorfodi (a elwid yn flaenorol yn feili) – Gallwn gyflogi asiant gorfodi i adfer y ddyled, gan gynnwys cymryd nwyddau a’u gwerthu. Mae’r costau cysylltiedig i’w gweld yn y ddeddfwriaeth - gallent fod yn eithaf sylweddol a chi fydd yn gyfrifol am eu talu. Bydden ni'n argymell yn gryf i chi osgoi cyrraedd y cam hwn.

Pan gaiff dyled Gorchymyn Dyled ei anfon ymlaen at asiant gorfodi, codir ffi o £75 (ar gyfer bob gorchymyn) arnoch, defnyddir hwn i dalu am yr asiant yn cysylltu â chi ac i sicrhau eich bod yn talu’r ddyled yn llawn (gan gynnwys ffi’r asiant).

Os anwybyddwch ymdrechion yr asiant i gysylltu â chi i drefnu taliad, bydd yr asiant yn ymweld â chi a bydd ffi bellach o £235 o leiaf yn daladwy. Bydd yr ail ffi hwn yn uwch os yw'r swm treth y cyngor heb ei dalu sy’n ddyledus gennych ar y Gorchymyn/Gorchmynion Dyled ar y pryd yn fwy na £1,500. Bydd y ffi yn cynyddu gan 7.5% o’r rhan honno o’r ddyled, sy’n fwy na £1,500. Er enghraifft, os oes arnoch chi £2,000 o dreth y cyngor heb ei dalu, bydd yr ail ffi yn £235 plws 7.5% o £500 (h.y. £2,000 llai £1,500) sef £38 (nodir yn y rheoliadau y bydd unrhyw ffracsiwn o £1 yn cael ei dalgrynnu i fyny i £1). Felly, yn yr esiampl hon, bydd yr ail ffi yn £273. Bydd ffioedd pellach yn daladwy os cymerir camau i werthu eich nwyddau.

Mae opsiynau eraill ar gyfer camau gorfodi yn cynnwys camau methdaliad ac ar gyfer dyled o £1,000 neu fwy, gorchymyn arwystlo lle gallwn ymgeisio i’r Llys Sirol am gost ar eich eiddo.