Delio gyda phrofedigaeth
Efallai y byddwch yn teimlo'ch bod angen siarad gyda rhywun o'r tu allan i'ch teulu agos, neu gyda phobl eraill sydd wedi bod trwy brofiad tebyg. Yn ogystal â gweinidogion crefyddol a chaplaniaid ysbyty, mae nifer o sefydliadau all gynnig y math hwn o gefnogaeth.
Canllaw profedigaeth
Gwyddom pa mor anodd yw hi pan fyddem yn colli rhywun sy'n agos atom drwy farwolaeth. Gall teimladau o sioc, tristwch, colled a dryswch gymryd ein bywydau drosodd. Mae hefyd yn amser pan fo cymaint o bethau i'w wneud, pan fyddwn ni'n teimlo nad ydym yn gallu ymdopi.
Mae gwasanaeth Cofrestru a Phrofedigaeth y Cyngor wedi cynhyrchu'r canllaw profedigaeth hwn i'ch helpu chi drwy'r amser anodd hwn. Mae'n darparu arweiniad, cefnogaeth a sicrwydd a bydd yn eich helpu i gael yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i'ch helpu trwy'ch profedigaeth.
Cofrestru marwolaeth
Pan fyddwch yn cofrestru'r farwolaeth, bydd y cofrestrydd yn gallu rhoi cyngor i chi ynghylch gwasanaethau lleol sydd ar gael. Bydd y cofrestrydd yn gallu cynnig y gwasanaeth Dwedwch Unwaith Wrthym sy'n ei gwneud yn haws i adael i sefydliadau eraill wybod bod eich perthynas wedi marw.
Y Ganolfan Marwolaeth Naturiol
Maent yn darparu'r unig wasanaeth cyngor angladdau annibynnol yn y DU, gan helpu gydag angladdau eco-gyfeillgar a DIY. Ewch i wefan y Ganolfan Marwolaeth Naturiol.
GOV.UK – Marwolaeth a Galar
Mae gwefan GOV.UK yn darparu gwybodaeth ynghylch ewyllysiau a phrofeb, budd-daliadau, eiddo ac arian; a beth i'w wneud yn dilyn marwolaeth. Ewch i wefan GOV.UK.
Gofal Galar Cruse
Mae Gofal Galar Cruse yn wasanaeth am ddim sydd yn hybu lles pobl sydd yn galaru ac yn helpu unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth i ddeall eu galar a delio â'r golled. Ewch i wefan Gofal Galar Cruse.
Cymdeithas Genedlaethol Trefnwyr Angladdau
Yn cynnwys gwybodaeth eang ar y Gymdeithas, gan gynnwys y newyddion diweddaraf, manylion ar y math o wasanaethau y gallwch ddisgwyl ei dderbyn gan Aelodau, rhaglenni addysgu a'r cynllun rhagdalu am angladdau. Ewch i wefan Cymdeithas Genedlaethol Trefnwyr Angladdau.