Dweud Wrthym Unwaith
Pan fydd rhywun wedi marw, mae llawer o bethau sydd angen eu gwneud, a hynny ar adeg pan na fyddwch eisiau gwneud dim ohonynt, mae'n debyg. Un o'r pethau hyn yw cysylltu â'r adrannau llywodraeth a gwasanaethau cyngor lleol sydd angen gwybod am y farwolaeth.
Mae 'Dwedwch Unwaith Wrthym' yn wasanaeth lle gallwn eich helpu i roi'r wybodaeth i'r Adran Gwaith a Phensiynau, fel eu bod nhw yn pasio'r wybodaeth ymlaen i nifer o adrannau llywodraeth a gwasanaethau llywodraeth leol.
Sut i gael mynediad at y gwasanaeth
Cyn y gallwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith, rhaid i chi gofrestru'r farwolaeth.
Pan fyddwch chi wedi gwneud hynny, gallwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith mewn un o dair ffordd:
-
Wyneb yn wyneb yn y swyddfa gofrestru - Mae angen i chi gofrestru'r farwolaeth cyn y gallwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth. Bydd y gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith yn cael ei gynnig i chi yn ystod yr un apwyntiad. I drefnu apwyntiad, cysylltwch â ni.
-
Ar-lein yn www.gov.uk/tell-us-once - Gallwch chi hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith ar-lein. Pan fyddwch chi wedi cofrestru'r farwolaeth, bydd y cofrestrydd yn rhoi cyfeirnod Dweud Wrthym Unwaith unigryw i chi, a bydd angen hynny arnoch chi i fewngofnodi.
-
Dros y ffôn gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau - Gallwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith ar unrhyw adeg ar ôl i chi gofrestru'r farwolaeth. Bydd y cofrestrydd yn rhoi'r rhif ffôn i chi. Os oes angen, bydd cynghorydd a chyfieithydd ar y pryd yn eich ffonio chi'n ôl ac yn eich helpu chi. Os ydych chi'n ffonio o Gymru, byddwch chi'n cael parhau â'r alwad yn Gymraeg.
Pwy all gael ei hysbysu gyda'r gwasanaeth hwn?
Bydd Dwedwch Unwaith Wrthym yn helpu teuluoedd sy'n galaru i hysbysu'r sefydliadau ac adrannau llywodraeth canlynol pan fydd rhywun yn marw:
- Gwasanaethau Cyngor
- Treth gyngor
- Gwasanaethau cymdeithasol i oedolion
- Bathodynnau glas (bathodynnau car i bobl anabl)
- Gwasanaethau cymdeithasol i blant
- Cofrestr etholiadol
- Budd-dal tai a gostyngiadau'r dreth gyngor
- Casglu taliadau ar gyfer gwasanaethau'r cyngor
- Tai cyngor
- Llyfrgelloedd a hamdden
Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gofalydd
- Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Budd-dal Analluogrwydd
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Pensiwn
- Pensiwn Gwladol
- Canolfan Byd Gwaith
- Tîm Gofal Iechyd Tramor
Cyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC)
- Budd-dal Plant
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gwaith
- Trethu personol
Swyddfa Basbort Ei Mawrhydi
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
- Trwydded Yrru
- Dogfen gofrestru/berchnogaeth cerbyd
Os y byddwch yn defnyddio'r gwasanaeth wyneb yn wyneb yn y swyddfa gofrestru, efallai gall y cofrestrydd eich helpu i ddod o hyd i fwy o wybodaeth a sefydliadau allai fod o gymorth i chi, ac os oes angen, cysylltu ag adrannau cyngor eraill sydd heb eu rhestru uchod, er enghraifft cerdyn teithio rhatach.
Gwybodaeth y byddwch ei hangen
Er mwyn gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth gywir yn cael ei rhoi i unrhyw sefydliadau y byddwn yn cysylltu â nhw drosoch chi, ac er mwyn i chi gael y mwyaf allan o'r gwasanaeth, byddai'n ddefnyddiol pe baech yn gallu bod â'r wybodaeth ganlynol ynghylch yr ymadawedig wrth law:
- Rhif Yswiriant Cenedlaethol yr ymadawedig (ac unrhyw ŵr, gwraig neu bartner sifil cyfreithiol sydd dal yn fyw)
- Dyddiad geni
- Tref/gwlad enedigol
- Manylion unrhyw wasanaethau/budd-daliadau yr oeddent yn
- Tystysgrif marwolaeth
- Trwydded yrru neu rif trwydded yrru
- Rhif cofrestru cerbyd unrhyw gerbydau sydd wedi’u yn enw’r ymadawedig
- Pasport neu rif pasport
- Bathodyn glas
Gallech gael eich holi am fanylion:
- Perthynas agosaf
- Gŵr, gwraig neu bartner sifil sy'n dal yn fyw
- Y person sy'n delio gyda'r ystâd
Noder: Rhaid cael caniatâd y personau a restrwyd uchod os ydych yn mynd i roi gwybodaeth amdanynt i ni.
Gwybodaeth Bellach
Os hoffech chi unrhyw wybodaeth bellach ynghylch y gwasanaeth cysyllwch â'r swyddfa gofrestru.
Canllaw profedigaeth
Gwyddom pa mor anodd yw hi pan fyddem yn colli rhywun sy'n agos atom drwy farwolaeth. Gall teimladau o sioc, tristwch, colled a dryswch gymryd ein bywydau drosodd. Mae hefyd yn amser pan fo cymaint o bethau i'w wneud, pan fyddwn ni'n teimlo nad ydym yn gallu ymdopi.
Mae gwasanaeth Cofrestru a Phrofedigaeth y Cyngor wedi cynhyrchu'r canllaw profedigaeth hwn i'ch helpu chi drwy'r amser anodd hwn. Mae'n darparu arweiniad, cefnogaeth a sicrwydd a bydd yn eich helpu i gael yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i'ch helpu trwy'ch profedigaeth.
Datganiad Preifatrwydd Dweud Wrthym Unwaith
Mae’r gwasanaeth hwn yn ymrwymedig i sicrhau fod eich preifatrwydd wedi ei ddiogelu a gallwch fod yn sicr y bydd unrhyw wybodaeth fyddwch yn rhoi yn cael ei ddefnyddio yn unol â’r Datganiad Preifatrwydd hwn. Mae'r datganiad hwn yn esbonio sut y byddwn yn defnyddio a diogelu unrhyw wybodaeth fyddwch yn rhoi i ni pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwn.
Datganiad Preifatrwydd Dweud Wrthym Unwaith (PDF)