News Centre

Ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol yn dathlu adroddiadau Estyn llwyddiannus

Postiwyd ar : 13 Medi 2023

Ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol yn dathlu adroddiadau Estyn llwyddiannus
Mae nifer o ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi dathlu adroddiadau Estyn llwyddiannus yn ddiweddar yn dilyn arolygiadau cadarnhaol mewn ysgolion.
 
Mae Estyn yn arolygu ansawdd a safonau darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae eu hadroddiadau nhw’n sicrhau bod ysgolion yn cynnal y safonau uchel mae disgyblion y Fwrdeistref Sirol yn eu haeddu.
 
Mae Ysgol Gyfun Coed Duon, Ysgol Gynradd Tynewydd, Ysgol Idris Davies, Ysgol Gynradd Hengoed, Ysgol Gynradd Santes Gwladys Bargod, ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf ymhlith nifer o ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol sydd wedi cael adroddiadau cadarnhaol dros dymor yr haf.
 
Clywch yr hyn oedd gan y penaethiaid i'w ddweud:
 
Dywedodd Jane Wilkie, Pennaeth Ysgol Gyfun Coed Duon, "Rydyn ni wrth ein bodd gydag adroddiad ein harolygiad Estyn ac yn falch iawn ei fod yn cydnabod bod ein disgyblion gwych ni’n bobl ifanc gyfeillgar, cwrtais a chyflawn sy'n mynegi balchder cryf yn eu hysgol a'u cyflawniadau personol nhw.  Mae hefyd yn dystiolaeth o ymroddiad holl staff yr ysgol; mae eu hagwedd a'u gwaith nhw’n adlewyrchu eu hymrwymiad i'n disgyblion ni ac i werthoedd yr ysgol."
 
Dywedodd Matthew McCabe, Pennaeth Ysgol Gynradd Tynewydd, "Rydyn ni’n falch bod adroddiad yr arolygiad yn cydnabod ein hysgol ni fel cymuned groesawgar a gofalgar sy'n rhoi blaenoriaeth uchel i les disgyblion. Mae'n amlwg bod y berthynas lesol rhwng staff a disgyblion a rhwng y disgyblion eu hunain yn cael effaith gadarnhaol ar ethos yr ysgol."
 
Dywedodd Richard Owen, Pennaeth Ysgol Idris Davies 3-18, "Fel cymuned ysgol, rydyn ni’n hynod falch o’r adroddiad gwych hwn yn dilyn yr arolygiad gan Estyn a'r ffaith ei fod yn cydnabod yn glir y meysydd cryfder sylweddol sy'n amlwg ar draws yr ysgol. Fel ysgol, rydyn ni’n ymwybodol iawn o'r heriau sylweddol sy'n wynebu ein disgyblion a'u teuluoedd nhw, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd bresennol a'r argyfwng costau byw."
 
Dywedodd Jonathan Lloyd, Pennaeth Dros Dro Ysgol Gynradd Hengoed: "Mae'r adroddiad yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad holl gymuned Ysgol Gynradd Hengoed. Mae gofalu am les pob plentyn yn gryfder sylweddol yn yr ysgol ac, o ganlyniad, mae plant yn gwneud cynnydd da, a oedd yn amlwg i'w weld."
 
Dywedodd Kathryn Evans, Pennaeth Ysgol Gynradd Santes Gwladys Bargod, "Rydyn ni wrth ein bodd bod yr adroddiad rhagorol hwn yn dilyn yr arolygiad wedi cydnabod y safonau uchel parhaus sydd wedi’u cyflawni yn Santes Gwladys, gan nodi cryfderau niferus yr ysgol. Rydyn ni’n falch iawn bod yr arolygwyr wedi datgan bod llawer o ddisgyblion yn datblygu i fod yn ddysgwyr annibynnol ac uchelgeisiol o oedran cynnar, a bod safonau dysgu uchel a chynnydd da yn cael eu cyflawni ar draws yr ysgol gyda chynhesrwydd a pharch amlwg at bawb."
 
Dywedodd Samantha King, Pennaeth Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf, "Rydyn ni’n falch iawn o'n hadroddiad Estyn a'r ffordd mae'n adlewyrchu cynhesrwydd ethos yr ysgol a'r berthynas gref rhwng staff a disgyblion. Mae'n fraint cael gweithio gyda thîm mor ymroddedig o staff a llywodraethwyr sy'n angerddol dros wneud eu gorau glas ar gyfer y plant a'r teuluoedd yn ein cymuned ni."
 
Gallwch chi ddarllen yr holl adroddiadau sydd wedi’u crybwyll ar wefan Estyn


Ymholiadau'r Cyfryngau