News Centre

Gofyn i denantiaid Cyngor Caerffili fynegi eu barn ar wasanaethau tai

Postiwyd ar : 10 Medi 2021

Gofyn i denantiaid Cyngor Caerffili fynegi eu barn ar wasanaethau tai
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gofyn i denantiaid roi eu barn ar y gwasanaethau tai y mae'n eu darparu.

Mae'r arolwg yn cael ei gynnal ar ran y Cyngor gan gwmni annibynnol o'r enw ARP Research Limited. Mae copïau o'r arolwg yn cael eu postio i bob cartref sy'n eiddo i'r Cyngor yn y Fwrdeistref Sirol. Gall tenantiaid hefyd lenwi'r arolwg ar-lein; mae rhagor o wybodaeth ar gael.

Bydd pawb sy'n llenwi'r arolwg yn cael eu cynnwys mewn raffl i gael cyfle i ennill hyd at £250 ar ffurf talebau siopa. Bydd yr arolwg yn gorffen ddydd Gwener 8 Hydref.

Meddai'r Cynghorydd Lisa Phipps, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Bydd canlyniadau'r arolwg hwn yn ein helpu ni i ddeall sut y gallwn ni wella ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein tenantiaid yn well. Rwy'n annog pob tenant i sicrhau eu bod nhw'n dweud eu dweud ac yn ein helpu ni i lywio gwasanaethau trwy lenwi'r arolwg.”

Os oes gan denantiaid unrhyw gwestiynau neu bryderon am yr arolwg, mae modd cysylltu â'r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid a'r Gymuned drwy ffonio 01443 864086 neu anfon e-bost i CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau