Pont Afon Draethen ar gau ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol
Postiwyd ar : 11 Hyd 2022
Fel rhan o raglen cynnal a chadw asedau parhaus Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, bydd gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar barapet Pont Afon Draethen ym mis Hydref.
Bydd y bont ar gau i gerbydau rhwng 9am dydd Llun 17 Hydref a 5pm dydd Mercher 19 Hydref.
Bydd llwybr gwyro wedi'i arwyddo yn ei le drwy gydol y gwaith. Bydd y llwybr i gerdded dros y bont yn cael ei gynnal yn ystod y gwaith. Bydd gwasanaethau bws yn parhau fel arfer.
Rydyn ni'n deall yr effaith a gaiff y gwaith cynnal a chadw ar lif y traffig. Rydyn ni’n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y mae hyn yn gallu ei achosi.