News Centre

Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn ymweld ag Ysgol Gynradd Fochriw

Postiwyd ar : 07 Hyd 2022

Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn ymweld ag Ysgol Gynradd Fochriw
Mae Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Fochriw i gyflwyno Gwobr y Gymraeg iddyn nhw a dathlu Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol.
 
Cafodd y Gweinidog daith o amgylch yr ysgol, dan arweiniad cynrychiolwyr o grwpiau llais disgyblion yr ysgol a’r Pennaeth, Sharon Pascoe. Yn fuan wedyn, mynychodd y Gweinidog wasanaeth yr ysgol lle cyflwynodd ‘Wobr Arian y Siarter Iaith’ i ddysgwyr uchelgeisiol a galluog y ‘Criw Cymraeg’. Yn olaf, cymerodd Jeremy Miles AS ran ym ‘Milltir Ddyddiol’ yr ysgol gyda disgyblion hyderus ac iach Blwyddyn 3 i Flwyddyn 6.
 
Dywedodd Sharon Pascoe, Pennaeth Ysgol Gynradd Fochriw, “Rydyn ni'n falch iawn o groesawu Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru i Ysgol Gynradd Fochriw. Rydyn ni wedi bod wrth ein boddau â’r cyfle i rannu ein ‘taith Cwricwlwm i Gymru hyd yma’ a dangos sut mae’r pedwar diben yn treiddio i'n bywyd ysgol yma yn Fochriw.  Mae’n fraint ennill Gwobr Arian y Siarter Iaith gan y Gweinidog ac iddo ymuno â ni ar gyfer ein dathliad blynyddol o Ddiwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol!”
 
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Diolch i bawb yn Ysgol Gynradd Fochriw am drefnu ymweliad mor ddymunol, lle wnes i hyd yn oed wisgo fy esgidiau ymarfer i ymuno yn y sesiwn rhedeg dyddiol. Mae wedi bod yn ysbrydoledig gweld a chlywed sut mae’r ysgol yn gwreiddio’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
 
“Hoffwn hefyd longyfarch yr ysgol ar dderbyn eu gwobr Siarter Iaith, yr oeddwn i’n falch iawn o allu cyflwyno iddyn nhw yn bersonol.”
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Roedd yn hyfryd bod yn rhan o ymweliad Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru ag Ysgol Gynradd Fochriw. Roedd yn wych i ddisgyblion a staff gwrdd â Jeremy Miles AS yn eu hysgol eu hunain a gallu gofyn cwestiynau iddo.”


Ymholiadau'r Cyfryngau