News Centre

Glanhau Moroedd Cymru yn llwyddiant ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 26 Hyd 2022

Glanhau Moroedd Cymru yn llwyddiant ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
Mae Glanhau Moroedd Cymru wedi bod yn llwyddiant, gyda 56 bag o sbwriel wedi cael eu casglu trwy gydol yr ymgyrch.

Yn ystod tymor yr hydref eleni, galwodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chadwch Gymru’n Daclus ar wirfoddolwyr i ddod o hyd i’w codwyr sbwriel, cynnig cymorth a chymryd rhan yn yr ymgyrch Glanhau Moroedd Cymru, gan dargedu afonydd, dyfrffyrdd a thraethau ar draws Cymru.

Mae sbwriel morol yn fygythiad cynyddol i’n hamgylchedd dyfrol a morol, gydag 80% yn dod o ffynonellau ar y tir.  Mae’r rhan fwyaf o sbwriel sydd yn ein dyfrffyrdd yn cyrraedd cefnforoedd yn y pen draw, felly nid yw’r mater yn berthnasol i ardaloedd arfordirol yn unig.  Mae angen atal y broblem yn ei ffynhonnell, gan gadw ein traethau a’n dyfrffyrdd yn lân er mwyn i fywyd gwyllt allu ffynnu, a’n bod ni’n gallu gwneud y gorau o’n hamgylchedd hardd.
 
Cafodd digwyddiadau Glanhau Moroedd Cymru ei gynnal rhwng dydd Gwener 16 Medi tan ddydd Sul 2 Hydref 2022, pan drefnodd Cyngor Bwrdeistref Caerffili tri digwyddiad codi sbwriel mewn ardaloedd â phroblemau sbwriel sy'n agos i afonydd Sirhywi, Rhymni ac Ebwy gan gynnwys Heol y Clogwyn yng Nghoed Duon, Ffordd Fynediad Trehir a Chaeau Trecelyn, o dan yr A472.

Gwelodd y digwyddiadau yma cyfanswm o 56 bag o sbwriel cael eu casglu, chwech troli siopa ac eitemau arall a oedd wedi cael eu gollwng megis pram.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd: “Diolch yn fawr iawn i'r holl wirfoddolwyr, tîm gwastraff Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chadwch Gymru'n Daclus a helpodd i wneud Glanhau Morol Cymru'n llwyddiant yn ein Bwrdeistref.

"Er bod y digwyddiadau hyn bob amser yn bleser i gymryd rhan ynddyn nhw, dylem ni i gyd fod yn gwneud ein rhan i'w hatal nhw rhag bod yn angenrheidiol, gallwn ni wneud hyn trwy fynd â'n sbwriel adref a chael gwared arno'n gywir. Rydyn ni'n lwcus iawn i fyw mewn Bwrdeistref mor hyfryd ac felly mae'n hanfodol ein bod ni'n gwneud ein rhan i'w cadw'n rhydd rhag sbwriel"
 


Ymholiadau'r Cyfryngau