News Centre

Cyfle olaf i denantiaid Cyngor Caerffili gael dweud eu dweud ar renti

Postiwyd ar : 19 Hyd 2022

Cyfle olaf i denantiaid Cyngor Caerffili gael dweud eu dweud ar renti
Dim ond ychydig ddyddiau sydd ar ôl i denantiaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gael dweud eu dweud ar y rhenti maen nhw'n eu talu a chael cyfle i ennill hyd at £150 mewn talebau siopa.

Mae'r Cyngor yn gofyn i denantiaid lenwi arolwg byr i nodi a ydyn nhw'n credu bod eu rhenti nhw'n deg, yn fforddiadwy ac a yw'r gwasanaeth maen nhw'n ei gael yn rhoi gwerth am eu harian.
 
Mae'r arolwg ar gael ar-lein a bydd yn cau ddydd Llun 24 Hydref; bydd pawb sy'n cymryd rhan yn cael eu cynnwys mewn raffl lle bydd un person yn ennill £150 ar ffurf talebau siopa a thri pherson arall yn ennill £50.
 
Os nad oes modd i unrhyw un lenwi'r arolwg ar-lein, neu os oes angen cymorth ar unrhyw un, mae modd cysylltu â'r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid a'r Gymuned drwy ffonio 01443 811433 / 811434 neu anfon e-bost at CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk.
 
Mae rhenti ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i fod ymhlith yr isaf yng Nghymru a bydd yr arolwg yn helpu'r Cyngor i sicrhau bod fforddiadwyedd a gwerth am arian yn parhau i gael eu hystyried yn y blynyddoedd i ddod.


Ymholiadau'r Cyfryngau