News Centre

Cyngor Caerffili yn rhoi gwybod i denantiaid am newidiadau i'r gyfraith tai

Postiwyd ar : 14 Hyd 2022

Cyngor Caerffili yn rhoi gwybod i denantiaid am newidiadau i'r gyfraith tai
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn anfon llythyrau at ei holl denantiaid yn rhoi gwybod iddyn nhw am newidiadau a fydd yn cael eu gwneud fel rhan o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru).

Y Ddeddf Rhentu Cartrefi yw'r newid mwyaf i'r gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau.

O 1 Rhagfyr 2022, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 newid y ffordd y mae pob landlord yng Nghymru yn rhentu ei eiddo. Bydd yn gwella sut mae cartrefi’n cael eu rhentu a’u rheoli yng Nghymru.

Bydd rhai termau newydd i ddod i arfer â nhw. O dan y gyfraith newydd, bydd tenantiaid yn dod yn ‘ddeiliaid contract’. Bydd cytundebau tenantiaeth yn cael eu disodli gan ‘gontractau meddiannaeth’.

Ar hyn o bryd, nid oes angen i denantiaid wneud dim ond mae'r Cyngor yn eu hannog i ddarllen yr wybodaeth sydd wedi'i hanfon atyn nhw ynglŷn â'r newidiadau.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru).  Mae tenantiaid cyngor ym Mwrdeistref Sirol Caerffili hefyd yn gallu anfon e-bost at RhentuCartrefi@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 811432 / 811433 / 811434.


Ymholiadau'r Cyfryngau