Deddf Rhentu Cartrefi Cymru

Mae'r ffordd rydych chi'n rhentu wedi newid… i denantiaid a landlordiaid

Y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yw'r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau.

Ar 1 Rhagfyr 2022, fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ar waith er mwyn newid y ffordd mae pob landlord yng Nghymru yn rhentu ei eiddo. Y bwriad yw gwella'r ffordd rydyn ni'n rhentu, rheoli a byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru.

Mae rhai termau newydd i ddod i arfer â nhw. O dan y gyfraith newydd, mae tenantiaid wedi dod yn ‘ddeiliaid contract’. Mae cytundebau tenantiaeth yn cael eu disodli gan ‘gontractau meddiannaeth’.
 

Os ydych chi'n ddeiliaid contract neu'n landlord, mynnwch ragor o wybodaeth am sut mae'r newidiadau'n effeithio arnoch chi.

Hawdd ei ddeeall: Canllaw i ddeiliaid contract (PDF)

Cwestiynau cyffredin (PDF)

Sector Rhentu Preifat - Cwestiynau cyffredin (PDF)

 

Yr hyn y mae Rhentu Cartrefi yn ei olygu i Landlordiaid

Ar gyfer pob ymholiad ynghylch Rhentu Cartrefi ac i weld canllawiau manwl, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

 

Gallwch hefyd optio i mewn ar gyfer diweddariadau Rhentu Cartrefi gan Lywodraeth Cymru drwy eich cyfrif Rhentu Doeth Cymru. Mewngofnodwch a dewiswch yr opsiwn i dderbyn rhagor o wybodaeth gan Rhentu Doeth Cymru a phartneriaid.