News Centre

WeCare Wales Week 2021

Postiwyd ar : 15 Hyd 2021

WeCare Wales Week 2021

Wythnos Gofalwn.Cymru 2021 - Byddwch yn rhywun sy'n gallu gwneud gwahaniaeth o ran anghenion eich cymuned

Yr wythnos hon, bydd Gofalwn.Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn taflu goleuni ar sut beth yw gweithio yn y sectorau gofal cymdeithasol, gwasanaethu i blant a'r blynyddoedd cynnar.

Mae pandemig COVID-19 wedi cynyddu’r galw am wasanaethau gofal cymdeithasol yn gyflym, ac mae angen staff newydd i gefnogi dinasyddion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Drwy gydol Wythnos Gofalwn.Cymru, bydd nifer o ddigwyddiadau rhithwir i gynorthwyo ceiswyr gwaith sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn gofal, gyda'r cyfle i gysylltu â chyflogwyr lleol a swyddi gwag yn eich ardal chi. https://gofalwn.cymru/

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, “Gyda'r galw yn cynyddu, mae angen mwy o bobl i ymuno â'r sector gofal cymdeithasol nag erioed o'r blaen. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl yn eich cymuned, yna rydyn ni am glywed gennych chi. Cymerwch ran yn Wythnos Gofalwn.Cymru a dewch yn rhywun sy'n gallu gwneud gwahaniaeth o ran anghenion eich cymuned.”

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am weithio ym maes gofal cymdeithasol, yn ogystal â swyddi gwag cyfredol yn eich ardal leol, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dilyn Gofalwn.Cymru ar Instagram, Facebook a Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion Wythnos Gofalwn.Cymru.

Gallwch chi hefyd ymweld â phorth swyddi Gofalwn.Cymru https://gofalwn.cymru/swyddi/ neu ymweld â gwefan y Cyngor i gael gwybodaeth gyfredol am swyddi gwag gofal ym maes cymdeithasol www.caerffili.gov.uk/swyddi



Ymholiadau'r Cyfryngau