Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Hydref 2021
Mae drysau ffrynt yn ymddangos ym Mae Caerdydd mewn ymgais i annog Gofalwyr Newydd
News Centre
Mae drysau ffrynt yn ymddangos ym Mae Caerdydd mewn ymgais i annog Gofalwyr Newydd
Postiwyd ar : 04 Hyd 2021
Mae cyfres o ddrysau ffrynt a osodwyd gan Maethu Cymru yn tynnu sylw at y rhai sydd wedi agor eu cartrefi i blant maeth yng Nghymru, gyda’r nod o gynyddu nifer ac amrywiaeth y gofalwyr maeth o fewn awdurdodau lleol yn sylweddol.
Mae nifer o ddrysau ffrynt o faint go iawn wedi'u dadorchuddio y tu allan i'r Senedd wrth i'r rhwydwaith newydd o 22 o wasanaethau maethu'r Awdurdodau Lleol ledled y wlad, Maethu Cymru, wahodd y cyhoedd i ystyried agor eu cartrefi i helpu i ddarparu ar gyfer nifer y plant yng Nghymru sydd angen gofal a chymorth.
Mae Maethu Cymru yn gweithio tuag at gynyddu nifer y gofalwyr maeth mewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru i helpu i gadw plant yn eu hardal leol, pan fo hynny’r peth iawn iddynt, sy'n cyfrannu at yr effaith genedlaethol ar ddyfodol pobl ifanc.
Ar ddiwedd mis Mawrth 2020, datgelodd ystadegau Llywodraeth Cymru fod 84% o blant sy'n byw gyda theuluoedd maeth yn dal i allu byw yn eu hardal eu hunain, gan gadw'n gyfarwydd â'r gymuned yr oeddent eisoes yn ei hadnabod.
Nod Maethu Cymru yw annog y rhai sy'n ystyried maethu i wneud hynny yn eu hawdurdod lleol fel y gall perthnasoedd pwysig, a all helpu plant i ffynnu, barhau.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, "Mae gofalwyr maeth yng Nghymru wedi dweud wrthyf droeon am ba mor werthfawr y gall y profiad o ofalu am blentyn fod. Rwy'n annog unrhyw un sy'n gallu agor eu cartref fel bod y plant hynny sydd angen ein help yn gallu byw plentyndod hapusach a datblygu i fod y bobl maen nhw’n dymuno cael bod."
Mae dadorchuddio drysau ffrynt o faint go iawn heddiw yn cynrychioli pob un o'r 22 Awdurdod Lleol a'r nod cenedlaethol cyfunol o gydweithio i helpu i adeiladu dyfodol gwell i blant yng Nghymru.
Dywedodd Sally, gofalwr maeth Awdurdod Lleol sy'n gweithio gyda Maethu Cymru Bro Morgannwg, "Mae maethu wedi newid fy mywyd, ni allaf ddychmygu gwneud unrhyw beth arall.
"Roeddwn i wastad wedi bod ag angerdd y tu fewn i mi i eisiau gwneud hynny. Roedd bob amser yn rhywbeth yr oeddwn am ei wneud. Doeddwn i ddim bob amser yn deall y rôl a'r hyn yr oedd yn ei olygu, ond y tu mewn, roedd bob amser yn rhywbeth yr oeddwn am ei wneud.
"Roedd yn rhaid i mi ystyried y teulu cyfan. Mae'n rhaid iddo weithio i bawb, a theimlais fod yr awdurdod lleol yn cynnig proses baru well i wneud iddo weithio, ac mae wedi gweithio. Mae'r plant yn fy ngwneud yn falch bob dydd.
"I unrhyw un sy'n ystyried dod yn ofalwr maeth, codwch y ffôn oherwydd gallwch newid bywyd plentyn a does dim teimlad gwell na hynny."
Mae Maethu Cymru yn annog mwy o bobl fel Sally i agor eu cartrefi i helpu i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol mewn angen.
Mae digwyddiad heddiw yn dilyn lansiad diweddar ymgyrch ehangach Maethu Cymru sydd â'r nod o gael effaith genedlaethol sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc yng Nghymru.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili yn nodi Caerffili sy'n Dysgu fel eu mater blaenoriaeth ar gyfer 2024
Daeth ‘Natur Wyllt’ i rym y gwanwyn hwn er mwyn caniatáu i’n mannau gwyrdd ffynnu
Cyhoeddi enillydd £500 diweddaraf Bwrdeistref Sirol Caerffili am ailgylchu gwastraff bwyd
Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili poblogaidd yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Cyhoeddi cau ffyrdd ar gyfer digwyddiad 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y