News Centre

Peidiwch â cholli eich pleidlais – Cofrestrwch nawr

Postiwyd ar : 18 Hyd 2021

Peidiwch â cholli eich pleidlais – Cofrestrwch nawr

Yr wythnos hon yw Wythnos Democratiaeth Leol, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa trigolion i gofrestru i bleidleisio.

Gydag etholiadau cynghorau lleol yn cael eu cynnal ar 5 Mai 2022, dyma gyfle pwysig i drigolion sicrhau eu bod nhw'n gallu cymryd rhan.

Yn ddiweddar, bu rhai newidiadau o ran pwy all bleidleisio yn ein hetholiadau cynghorau lleol ni. Os ydych chi'n ddinesydd tramor sy'n byw yng Nghymru, gallwch chi nawr bleidleisio, does dim ots ble cawsoch chi eich geni. Bydd gan unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn ar 5 Mai 2022 yr hawl i bleidleisio yn yr etholiadau cynghorau lleol a fydd yn cael eu cynnal y diwrnod hwnnw.

Sicrhewch fod pawb sy'n gymwys i bleidleisio wedi'u cofrestru drwy lenwi'ch ffurflenni canfasio blynyddol a chofrestru unigolion. Fel arall, gallwch chi gofrestru i bleidleisio ar wefan GOV.UK, sef www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

Meddai Dave Beecham, Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Mae'n bwysig bod gennym ni'r manylion diweddaraf a chywir am drigolion sy'n gymwys i bleidleisio. Mae'r newidiadau mewn cymhwysedd yn gyfle cyffrous i bleidleiswyr ifanc a dinasyddion tramor ddweud eu dweud nawr ar faterion lleol sy'n effeithio arnyn nhw.”

Meddai wedyn, “Mae'n bwysig deall nid yn unig y mae'r wybodaeth yn ofynnol yn ôl y gyfraith, ond hefyd, os byddwch chi'n methu â chofrestru, ni allwch chi bleidleisio mewn etholiadau a byddwch chi, o bosibl, yn cael trafferth o ran sicrhau credyd, contractau ffonau, morgais neu hyd yn oed gyfrif banc gan fod y gofrestr yn cael ei defnyddio gan asiantaethau gwirio credyd.”

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag aelod o'r tîm Gwasanaethau Etholiadol ar 01443 866586 neu ewch i www.caerffili.gov.uk/etholiadau



Ymholiadau'r Cyfryngau