News Centre

Cabinet yn cymeradwyo cyfleusterau seibiant newydd sbon ym Mhontllan-fraith

Postiwyd ar : 14 Hyd 2021

Cabinet yn cymeradwyo cyfleusterau seibiant newydd sbon ym Mhontllan-fraith
Cytunodd Cabinet Caerffili yn unfrydol ar gynigion i ddatblygu dau gyfleuster seibiant newydd sydd wedi'u lleoli ar hen safle Ysgol Gyfun Pontllan-fraith ar gyfer oedolion a phlant.
 
Bydd y datblygiad, gwerth miliynau o bunnoedd, yn caniatáu i'r Cyngor barhau i ddarparu'r gwasanaeth hanfodol hwn i gynnig cyfle i deuluoedd gael seibiant rhag cyfrifoldebau gofalu, gan gynorthwyo teuluoedd ymhellach i barhau i fyw gyda'i gilydd yn y gymuned.
 
Er eu bod yn cyd-fodoli ar un safle, byddan nhw’n cael eu rheoli ar wahân yn unol â rheoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru, ond bydd agosrwydd y ddau dŷ hefyd yn helpu plant i bontio i'r gwasanaethau i oedolion.
 
Bydd yr eiddo hefyd yn elwa o gynnydd penodol mewn ardaloedd awyr agored dynodedig sy'n hanfodol wrth symud ymlaen i ddiwallu anghenion unigolion ag awtistiaeth. Bydd yna fannau chwarae diogel dynodedig i blant a gerddi i'w mwynhau gan bawb.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, “Mae'r adborth gan deuluoedd sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn yn gadarnhaol iawn; mae'r gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio'n aml iawn gyda 92% o'r lleoedd yng nghyfleusterau seibiant presennol y Gwasanaethau i Oedolion yn llawn. Rydyn ni'n falch iawn o barhau i ddarparu gwasanaeth mor hanfodol yn llwyddiannus, ac nid oes gennyf i unrhyw amheuaeth y bydd y cyfleuster pwrpasol hwn yn helpu'r gwasanaeth hwn i ffynnu ac yn cwrdd â'r galw yn y dyfodol."


Ymholiadau'r Cyfryngau