News Centre

Cabinet yn cymeradwyo buddsoddiad tref Caerffili

Postiwyd ar : 14 Hyd 2021

Cabinet yn cymeradwyo buddsoddiad tref Caerffili
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo buddsoddiad ychwanegol o £150,000 i helpu adfywio tref Caerffili.

Bydd y buddsoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i benodi ymgynghorwyr arbenigol i helpu'r Cyngor i gyflawni ei gynllun uchelgeisiol, Cynllun Tref Caerffili 2035.

Mae cynllun 2035 yn nodi cyfanswm o 62 prosiect yng nghanol tref Caerffili a fydd yn darparu llwyfan adfywio a datblygu cynhwysfawr i annog twf, gwella perfformiad cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol canol y dref a helpu iechyd a lles ei thrigolion a chymunedau busnes.

Dywedodd y Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet y Cyngor sy’n gyfrifol am yr Economi a Menter, “Mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn yn newyddion i’w croesawu a bydd yn galluogi’r Cyngor i ddechrau cyflawni nifer o brosiectau cyffrous yng Nghaerffili.  Byddwn ni hefyd yn ceisio dod o hyd i gyllid allanol i wella Cynllun Tref Caerffili 2035 ymhellach, gan gynyddu cyfleoedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gyfer yr ardal leol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau