News Centre

Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon yn agor y drysau i'r safle newydd

Postiwyd ar : 07 Tach 2023

Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon yn agor y drysau i'r safle newydd
Cyrhaeddodd disgyblion a staff Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon eu hysgol newydd, yng Nghwmcarn, yn llawn cyffro y bore yma, wrth i'r cyfleuster o'r radd flaenaf agor ei ddrysau yn swyddogol am y tro cyntaf.

Mae'r adeilad trawiadol wedi'i leoli ar safle hen Ysgol Uwchradd Cwmcarn ac wedi'i gyd-ariannu gan Gyngor Caerffili a Llywodraeth Cymru drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sy'n rhan o Strategaeth Llunio Lleoedd ehangach y Cyngor.

Cafodd yr adeilad newydd ei adeiladu gan Andrew Scott Ltd ac mae wedi'i ddylunio i ddarparu lle ar gyfer yr ysgol gynradd Gymraeg sydd wedi cynyddu'n aruthrol mewn niferoedd dros y blynyddoedd ac sy'n parhau i dyfu. Mae safle helaeth yr ysgol yn cynnwys mannau addysgu modern a golau a mannau dysgu a chwarae awyr agored eang sy'n gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r safle blaenorol, yn ogystal â chyfleusterau newydd ar gyfer gofal plant a chanolfan adnoddau arbennig.

Mae'r safle hefyd yn elwa ar fynediad gwell i gerbydau a cherddwyr, mannau gollwng a chasglu, sydd wedi'u dylunio i reoli llif traffig yn effeithiol yn yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Mae Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi cael ei chanmol fel ysgol ragorol sawl gwaith ac mae hyn wir yn anhygoel o ystyried cyfyngiadau'r hen safle. Mae cymuned yr ysgol i gyd yn gweithio'n galed i sicrhau bod lles y disgyblion wrth galon popeth maen nhw'n ei wneud ac nid oes gen i ddim amheuaeth y byddan nhw'n parhau i fynd o nerth i nerth ar y safle newydd hwn.”

Ychwanegodd, “Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at ddigwyddiad agor swyddogol ym mis Ionawr pan fyddan nhw wedi setlo.”

Meddai'r Pennaeth, Anita Tucknutt, “Ni allaf i gredu bod y diwrnod hwn wedi cyrraedd. Mae'n emosiynol iawn i'r staff gan ein bod ni wedi rhannu cymaint o atgofion arbennig ar yr hen safle a dyna'r lle y dechreuodd ethos ‘Teulu Cwm Gwyddon’. Rydyn ni mor lwcus i gymryd hwnna gyda ni i'r safle anhygoel hwn, mae'r staff a'r disgyblion yn wir yn haeddu hyn ac nid oes gen i ddim amheuaeth y byddwn ni'n parhau i ffynnu yn ein cartref newydd.”

Dywedodd Steve Rees, Cyfarwyddwr Contractau (Adeiladu) Andrew Scott Ltd, “Mae cwblhau'r gwaith ar yr ysgol newydd hon, Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon, yn dyst i waith caled, cydweithrediad a gweledigaeth pawb a oedd yn rhan o'r prosiect. Gweithiodd ein Tîm Safle yn agos gyda Chyngor Caerffili, yr ysgol a'r disgyblion i ddylunio a datblygu cyfleuster addysgol a fydd o fudd i'r gymuned am beth amser. Rydyn ni i gyd mor falch o'r hyn sydd wedi cael ei gyflawni ac o fod yn rhan o'r cyfleuster anhygoel hwn.”


Ymholiadau'r Cyfryngau