News Centre

Mae amser yn brin i wneud cais am Grant Cartrefi Gwag

Postiwyd ar : 21 Tach 2023

Mae amser yn brin i wneud cais am Grant Cartrefi Gwag
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn annog perchnogion cartrefi gwag, sy'n dymuno byw yn eu heiddo, i wneud cais am grant i helpu gyda gwaith adnewyddu.
 
Drwy Gynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, mae grantiau o hyd at £25,000 ar gael i adnewyddu eiddo gwag i’w gwneud yn ddiogel i fyw ynddyn nhw a gwella eu heffeithlonrwydd ynni.
 
Mae'r grant ar gael i berchen-feddianwyr adnewyddu cartrefi sydd wedi bod yn wag ers o leiaf 12 mis. I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch.
 
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd buddiol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ffoniwch dîm ymroddedig y Cyngor ar 01443 811378, e-bostio TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk neu ymweld â www.caerphillynouseempty.co.uk
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau