News Centre

Cymorth ar gael i aelwydydd Caerffili i wella effeithlonrwydd ynni

Postiwyd ar : 28 Tach 2023

Cymorth ar gael i aelwydydd Caerffili i wella effeithlonrwydd ynni
Mae cymorth bellach ar gael i wella effeithlonrwydd ynni aelwydydd cymwys ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio gyda chwmnïau ynni a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (sy’n cynrychioli deg awdurdod lleol De-ddwyrain Cymru) i gynorthwyo aelwydydd mewn cartrefi sydd wedi’u hinswleiddio’n wael, er mwyn eu gwneud nhw'n fwy effeithlon o ran ynni a helpu i leihau effaith cynnydd mewn biliau ynni.

Fel rhan o gynlluniau cenedlaethol ECO4 a Hyblygrwydd ECO, bydd EDF a chwmnïau ynni eraill yn buddsoddi mewn cynlluniau cymunedol effeithlonrwydd ynni i gynorthwyo cartrefi ‘tlawd o ran tanwydd’ a’r aelwydydd hynny sy’n cynnwys unigolion â chyflyrau iechyd sy’n gwaethygu trwy fyw mewn cartref oer.

Trwy ei bartneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac EDF, mae Cyngor Caerffili yn annog ceisiadau gan aelwydydd yn y Fwrdeistref Sirol sydd yn berchen ar eu cartrefi, neu’n eu rhentu’n breifat, ac:
  • Yn meddu ar Dystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer eu cartref sydd â sgôr E neu is, ac
  • Yn cael cymorth lles, neu
  • Gydag incwm aelwyd o dan £31,000, neu
  • Gyda chyflwr iechyd cymwys, er enghraifft, cardiofasgwlaidd, anadlol, imiwnoataliedig neu gyfyngiadau o ran symud.Mae cymorth ar gael i gartrefi ar y grid nwy ac oddi arno.

Ar gyfer cartrefi sy'n cael eu gwresogi gan nwy ar hyn o bryd, rhaid i'r boeler presennol fod yn foeler cefn neu'n foeler llawr, fel arfer o leiaf 18 oed a nad yw'n cyddwyso.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â gosodwr enwebedig EDF ar gyfer y cynllun hwn, City Energy, drwy fynd i wefan City Energy neu ffonio 02920 499 183.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau