News Centre

Digwyddiad llwyddiannus cyntaf gaeaf 2023 wedi'i gynnal yng nghanol tref Ystrad Mynach

Postiwyd ar : 24 Tach 2023

Digwyddiad llwyddiannus cyntaf gaeaf 2023 wedi'i gynnal yng nghanol tref Ystrad Mynach
Cafodd canol tref Ystrad Mynach ei thrawsnewid ddydd Sadwrn diwethaf, 18 Tachwedd, ar gyfer Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf gyntaf 2023. Er gwaethaf y tywydd, roedd nifer fawr o bobl wedi mynychu gyda 5,353 o ymwelwyr, sef y diwrnod prysuraf ers y digwyddiad diwethaf ym mis Mawrth, a 4,231 yn rhagor o ymwelwyr â'r dref o'i gymharu â'r dydd Sadwrn blaenorol.

Roedd y ffair yn cynnwys amrywiaeth enfawr o weithgareddau ac adloniant gwych gan gynnwys Ogof Siôn Corn, perfformiadau cerddoriaeth fyw, gweithdai crefft, reidiau ffair, stondinau bwyd, a llawer mwy.

Roedd holl siopau stryd fawr y dref hefyd wedi cymryd rhan yn hwyl y dydd a chroesawu ymwelwyr, gan roi hwb i fusnesau bach a lleol.

Dyma'r hyn a ddywedodd y masnachwyr a busnesau lleol am y digwyddiad:

Meddai Margaret yn The Card Shop, “Digwyddiad hyfryd, awyrgylch braf, roedd yr adloniant gyda'r ci ar y beic yn llawer o hwyl!”

Dywedodd Joanne yn Siop Elusen St David's Foundation, “Nifer wych o ymwelwyr i ni! Niferoedd mawr o bobl, roedd yn brysur, nifer o wynebau newydd.”

Meddai Gareth yn D. Emlyn Lloyd, “Digwyddiad braf, diwrnod da a nifer dda o ymwelwyr, ffordd neis o ddechrau'r rhaglen o ddigwyddiadau'r gaeaf.”

Dywedodd Little Grandma's Kitchen, “Er nad oedd y tywydd ar ei orau, daeth pobl allan ar ôl iddi wella. Roedd y gwaith trefnu yn ardderchog fel erioed, gyda phawb yn gymwynasgar a llawen.”

Meddai Ellen a Claire o Lyfrgell Ystrad Mynach hefyd, “Gwnaeth y grŵp Gwau a Sgwrs yn dda iawn, ynghyd â sesiynau crefft/cardiau/lliwio, cawsom ni dros 250 o ymwelwyr ar y diwrnod. Roedd yn ddiwrnod hyfryd gyda llif cyson o bobl. Daeth y digwyddiad â phobl i mewn i'r llyfrgell mewn gwirionedd!”

Bydd y Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf nesaf yng Nghoed Duon ddydd Sadwrn 25 Tachwedd, rhwng 9am a 5pm. Dewch draw a mwynhau'r dathliadau! Am ragor o wybodaeth am ein Digwyddiadau'r Gaeaf, ewch i http://www.visitcaerphilly.com/cy neu ewch i dudalen Croeso Caerffili ar Facebook. Ymunwch â digwyddiad swyddogol Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Coed Duon, ar Facebook: https://buff.ly/3Po6CqI


Ymholiadau'r Cyfryngau