News Centre

Diogelu – Busnes pawb yw e

Postiwyd ar : 14 Tach 2023

Diogelu – Busnes pawb yw e

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa pawb mai cyfrifoldeb pawb yw diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed.

Dywedodd y Cynghorydd Elaine Forehead, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, “Mae Wythnos Genedlaethol Diogelu (13 i 17 Tachwedd) yn gyfle i sefydliadau sy’n gweithio gydag oedolion a phlant agored i niwed ddod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelu pwysig. Nid mater sy’n berthnasol i weithwyr cymdeithasol neu weithwyr proffesiynol eraill yn unig yw diogelu – mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn ymwybodol o’n dyletswydd i amddiffyn y rheini yn ein cymunedau ni a all fod mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

"Mae gan bob plentyn ac oedolyn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yr hawl i fyw mewn cymdeithas ddiogel, heb drais, ofn, cam-drin, bwlio na gwahaniaethu, ac mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae wrth gyflawni hynny. Mae Wythnos Genedlaethol Diogelu yn wythnos bwysig yn y calendr pan fydd partneriaid aml-asiantaeth yn dod at ei gilydd i ddysgu arfer gorau a rhannu gwybodaeth, gan danlinellu ein hymrwymiad i sicrhau bod pobl sy’n byw yn y Fwrdeistref Sirol yn ddiogel ac wedi’u hamddiffyn.”

Os oes gennych chi unrhyw bryderon am blentyn, person ifanc neu oedolyn sy'n agored i niwed, gallwch chi roi gwybod am y pryderon hynny i'r canlynol:

Oedolion: 0808 100 2500 / GCChOedolion@caerffili.gov.uk

Plant: 0808 100 1727 / cyswlltacatgyfeirio@caerffili.gov.uk



Ymholiadau'r Cyfryngau