News Centre

Diweddariad am Ganolfan Hamdden Pontllan-fraith

Postiwyd ar : 01 Tach 2023

Diweddariad am Ganolfan Hamdden Pontllan-fraith
Bydd adroddiad am ddyfodol Canolfan Hamdden Pontllan-fraith yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor fis nesaf, gan argymell bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal ynghylch cau’r cyfleuster yn barhaol.
 
Caeodd Canolfan Hamdden Pontllan-fraith ei drysau ym mis Mawrth 2020 a chafodd yr adeilad ei ddefnyddio fel canolfan frechu drwy gydol y pandemig. Nid yw wedi ailagor ar gyfer defnydd hamdden ers hynny ac mae'r rhan fwyaf o gyn ddefnyddwyr y ganolfan wedi symud i gyfleusterau eraill yn yr ardal gyfagos.
 
Fe wnaeth Arweinydd y Cyngor gyfarfod â chynrychiolwyr y gymuned yr wythnos hon i egluro’r rhesymau dros y cynnig ac i dynnu sylw at y buddsoddiad sylweddol sydd wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf (gyda rhagor o fuddsoddi ar y gweill) i ddarparu cyfleusterau chwaraeon modern, addas i’r diben ledled y Fwrdeistref Sirol.
 
Yn benodol, bydd amrywiaeth o gyfleusterau newydd trawiadol ar gael yn fuan mewn ‘Canolfan i Ddysgwyr Agored i Niwed’, sy’n cael ei hadeiladu ar hen safle Ysgol Gyfun Pontllan-fraith ar hyn o bryd. Bydd y cyfleusterau hyn yn cynnwys neuadd chwaraeon gyda phedwar cwrt, yn ogystal â chyfleusterau newid cysylltiedig a chae hyfforddi 3G, a fydd ar gael at ddefnydd cymunedol y tu allan i oriau ysgol.
 
“Mae Canolfan Hamdden Pontllan-fraith bron yn 50 oed ac mae ôl-groniad o bron i hanner miliwn o bunnoedd o ran gwaith cynnal a chadw,” meddai’r Cynghorydd Sean Morgan. "Rydw i’n sylweddoli bod cau unrhyw gyfleuster cymunedol yn gallu bod yn anodd, ond pan rydych chi'n edrych ar y buddsoddiad enfawr sydd wedi’i gyflawni gan ein Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol uchelgeisiol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda rhagor wedi'i gynllunio, mae’n amlwg bod gennym ni ddigonedd o gyfleusterau eraill modern, addas i'r diben ar gael.
  
“Felly, rydyn ni'n paratoi adroddiad a fydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet ym mis Tachwedd sy’n argymell ein bod ni'n ceisio barn y gymuned gyfan fel rhan o broses ymgynghori ffurfiol. "Mae’n debygol wedyn y bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn y flwyddyn newydd unwaith y byddwn ni wedi ystyried yr holl adborth yn ofalus,” ychwanegodd. 
 
Mae rhagor o fanylion am fuddsoddiad gwerth £3 miliwn y Cyngor mewn cyfleusterau newydd ar gael yma: https://www.caerffili.gov.uk/news/news-bulletin/october-2023/investing-in-your-community?lang=cy-gb
 


Ymholiadau'r Cyfryngau