News Centre

Disgyblion Ysgol Gynradd Penllwyn yn plannu gwreiddiau i lwyddo

Postiwyd ar : 24 Tach 2023

Disgyblion Ysgol Gynradd Penllwyn yn plannu gwreiddiau i lwyddo
Mewn prosiect diweddar, fe wnaeth disgyblion o flynyddoedd 5 a 6 Ysgol Gynradd Penllwyn gymryd rhan mewn prosiect plannu yn eu cymuned.
 
Gweithiodd y disgyblion gyda'r tîm Cadwch Gymru’n Daclus i blannu amrywiaeth o fylbiau cennin Pedr yng Nghylch Penllwyn. Dysgodd y disgyblion i fod yn ofalus nad oedd unrhyw fwydod yn cael eu hanafu wrth blannu, a'u hadfer nhw os oedden nhw'n cael eu tynnu'n ddamweiniol.
 
Cafodd y prosiect ei drefnu gan Bartneriaeth Gymunedol Penllwyn, gyda nawdd gan Paul Horne Stonework.
 
Dywedodd Amy Landrygan, athrawes blynyddoedd 5 a 6, “Roedd plant Dosbarth Gwenyn wedi mwynhau plannu cennin pedr yn eu cymuned leol.”
 
Dywedodd Andrew King, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus, sydd wedi cynorthwyo'r ysgol a’r gymuned ers nifer o flynyddoedd gyda gweithgareddau eco, “Roedd yn bleser gweithio gyda disgyblion Ysgol Gynradd Penllwyn eto a’u cynorthwyo nhw i ddeall pwysigrwydd gofalu am eu gymuned leol.”
 
Ychwanegodd Chris Lloyd, Trysorydd Partneriaeth Gymunedol Penllwyn, “Rydyn ni'n grŵp cymunedol bach o wirfoddolwyr, ond rydyn ni'n canolbwyntio ar wella ein hardal leol i'w gwneud y gorau y gall fod. Rydyn ni'n falch iawn o weld ein gwirfoddolwyr ifanc yn cymryd cam i helpu. Rydw i’n gwybod ein bod ni i gyd yn awyddus i weld y cennin Pedr yn blodeuo yn y gwanwyn!”


Ymholiadau'r Cyfryngau