News Centre

Annog teithwyr i gynllunio ymlaen llaw wrth i waith uwchraddio rheilffordd Glynebwy gyrraedd y cam olaf

Postiwyd ar : 08 Tach 2023

Annog teithwyr i gynllunio ymlaen llaw wrth i waith uwchraddio rheilffordd Glynebwy gyrraedd y cam olaf

Mae Network Rail yn atgoffa teithwyr i wirio cyn teithio wrth i’r gwaith gwerth miliynau o bunnoedd o uwchraddio llinell Glynebwy symud i'r cam olaf.

Bydd bysiau yn cymryd lle trenau rhwng gorsaf Tref Glynebwy a gorsaf Caerdydd Canolog o ddydd Mercher 15 Tachwedd tan ddydd Sul 3 Rhagfyr wrth i dimau weithio ddydd a nos i drawsnewid y llinell.

Bydd peirianwyr o Network Rail yn cynnal gwaith uwchraddio ar 1.2 cilometr o draciau mewn naw lleoliad gwahanol rhwng Crosskeys a Chrymlyn, er mwyn cwblhau’r gwaith o greu llinell osgoi saith milltir o hyd i alluogi trenau i fynd heibio'i gilydd yn y dyfodol.

Mewn mannau eraill ar y llinell, bydd contractwyr o Siemens yn gorffen sefydlu a chysylltu'r system signalau newydd o amgylch ardal Cyffordd y Parc. Bydd hyn yn helpu gwella cadernid a dibynadwyedd teithiau trenau i deithwyr a threnau nwyddau.

Mae’r gwaith i gyd yn rhan o’r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i ddarparu gwasanaeth ychwanegol bob awr rhwng gorsaf Tref Glynebwy a gorsaf Casnewydd. Mae trawsnewid y llinell wedi’i ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent drwy fenthyciad gan Lywodraeth Cymru, gyda’r Adran Drafnidiaeth a Network Rail yn darparu £17 miliwn yn rhagor i uwchraddio signalau ac adnewyddu traciau.

Yn ystod y cyfnod cau dros dro am 19 diwrnod, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu gwasanaeth bws rhwng gorsaf Tref Glynebwy a gorsaf Caerdydd Canolog. Mae teithwyr yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw drwy: www.journeycheck.com/tfwrail a www.nationalrail.co.uk

Dywedodd cyfarwyddwr llwybrau Cymru a’r Gororau Network Rail, Nick Millington, “Bydd cwblhau’r cam olaf hwn o’r gwaith yn trawsnewid sut mae teithwyr yn teithio ar reilffordd Glynebwy ac yn annog rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn cynorthwyo ein nod o ddatgarboneiddio.

“Er mwyn cadw pawb yn ddiogel, rhaid cau'r llinell er mwyn gwneud y gwaith hwn ac mae’n ddrwg gennym ni am unrhyw anghyfleustra. Hoffwn i ddiolch unwaith eto i deithwyr, a'n cymdogion ni, am barhau i fod yn amyneddgar wrth i ni gwblhau'r gwelliannau hanfodol hyn.”

Dywedodd cyfarwyddwr cynllunio a pherfformiad Trafnidiaeth Cymru, Colin Lea, “Mae’r gwaith hwn yn hanfodol ar gyfer y gwelliannau i’r amserlen y byddwn ni'n eu cyflwyno ar y llwybr hwn.

“Rydyn ni'n annog ein cwsmeriaid ni i barhau i wirio cyn teithio yn ystod y cyfnod hwn, ac yn diolch i chi unwaith yn rhagor am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith hanfodol hwn i uwchraddio a gwella teithio ar reilffordd Glynebwy yn y dyfodol.”



Ymholiadau'r Cyfryngau