News Centre

Ymgyrch Siôn Corn 2023

Postiwyd ar : 01 Tach 2023

Ymgyrch Siôn Corn 2023
Mae Ymgyrch Siôn Corn flynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lansio heddiw!

Mae cannoedd o blant ledled y Fwrdeistref Sirol sydd mewn perygl o beidio â chael anrheg y Nadolig hwn a nod Ymgyrch Siôn Corn yw darparu anrhegion i'r rhai sydd wedi'u henwebu gan eu gweithwyr cymdeithasol nhw.

Yn debyg i’r llynedd, rydym yn gofyn i drigolion addo arian parod trwy ein tudalen codi arian fel y gallwn sicrhau bod plant lleol yn derbyn anrhegion mewn pryd ar gyfer y diwrnod mawr.

Mae ein llinell addewidion bellach ar agor tan ddydd Llun 27 Tachwedd ac mae’n darparu ffordd gyflym a hawdd i grwpiau ac unigolion hael addo arian parod neu daleb rhodd i blentyn y Nadolig hwn yn syml drwy ymweld â'n tudalen rhoddion.

Rhoddwch-nawr.jpg
 
Os dewiswch brynu taleb rhodd, peidiwch â lapio’ch taleb. Yn hytrach, rhowch mewn amlen a sicrhau ei fod wedi’i farcio’n glir â’r wybodaeth isod:
 
  • Teitl yr amlen fel ‘Ymgyrch Siôn Corn’
  • Gwerth taleb/cerdyn rhodd
Cyfyngwch werth pob taleb/cerdyn rhodd unigol i £10.00.
 
Mae angen mynd â'r cardiau rhodd heb eu lapio i ganolfan gasglu erbyn dydd Iau 30 Tachwedd.
 
Mae’r canolfannau casglu fel a ganlyn:
 
  • Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin (CF83 1SN)
  • Banc Barclays, Ystrad Mynach (CF82 7AA)
  • Llyfrgell Caerffili (CF83 1JL)
  • Llyfrgell Rhisga (NP11 6BW)
  • Llyfrgell Bargod (CF81 8QR)
  • Llyfrgell Coed Duon (NP12 1AJ)
  • Llyfrgell Ystrad Mynach (CF82 7BB)
  • Llyfrgell Trecelyn (NP11 4FH)
Fel arall, gallwch wneud addewid drwy ffonio 01443 866577 neu e-bostio YmgyrchSionCorn@caerffili.gov.uk.

Dywedodd y Cynghorydd Elaine Forehead, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, "Gyda’r argyfwng costau byw presennol, mae’n hollbwysig sicrhau bod pob plentyn yn derbyn anrheg y Nadolig hwn. Mae Ymgyrch Siôn Corn yn achos mor deilwng a dim ond drwy roddion hael gan fusnesau a thrigolion y Fwrdeistref Sirol y mae'r ymgyrch yn gallu cael ei chyflawni.
 
"Ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu tuag at yr ymgyrch yn y gorffennol am eich rhoddion a'ch cymorth parhaus chi, ac rwy'n gwybod y bydd Ymgyrch Siôn Corn 2023 yr un mor llwyddiannus â blynyddoedd blaenorol."


Ymholiadau'r Cyfryngau