News Centre

Canol Tref Trecelyn yn lansio Wi-Fi cyhoeddus am ddim

Postiwyd ar : 03 Tach 2023

Canol Tref Trecelyn yn lansio Wi-Fi cyhoeddus am ddim
Canol Tref Trecelyn yw'r dref ddiweddaraf i fanteisio ar fynediad cyhoeddus at Wi-Fi am ddim. Mae Trecelyn yn rhan o ddarpariaeth ehangach sydd eisoes wedi'i chyflwyno ym Margod, Coed Duon, Rhymni, Rhisga ac Ystrad Mynach. Nod y fenter yw gwella profiad ymwelwyr â'r stryd fawr drwy helpu pobl i gael mynediad at siopau ar-lein ac ymgysylltu â busnesau lleol ar-lein.
 
Mae ehangu'r fenter mynediad cyhoeddus at Wi-Fi am ddim eisoes wedi bod yn llwyddiant yn y pum canol tref arall ledled y Fwrdeistref Sirol gyda'r ddarpariaeth yn cyfrannu at gymorth parhaus y Cyngor i adfywio canol ein trefi.
 
Mae'r fenter yn rhan allweddol o'r ymgyrch Dewis Lleol sy'n ceisio annog trigolion i #DewisLleol ac archwilio pob un o'n canol trefi allweddol i ddiwallu anghenion ymwelwyr o ran siopa ac anghenion pob dydd. Gall trigolion gysylltu dyfeisiau mewn ardal eang yng nghanol y dref ac o'i chwmpas.
 
Mae'r Wi-Fi ar gael drwy'r rhwydwaith FreeCCBCWifi. Bydd y platfform yn gofyn i chi gofrestru eich manylion cyn i chi fewngofnodi, ond dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn.
 
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Mae cadw pobl mewn cysylltiad wrth ddefnyddio'r stryd fawr yn hwb enfawr i ganol ein trefi. Mae'r ddarpariaeth hon yn gyfle cyffrous arall i dynnu pobl yn ôl i ganol trefi lleol.
 
“Mae mynediad cyhoeddus at Wi-Fi am ddim yn cynnig cyfleoedd i bobl sydd â band eang cyfyngedig neu ddim band eang o gwbl i gael mynediad at wasanaethau hanfodol ar-lein y cyngor lleol, y Llywodraeth a gwasanaethau iechyd. Bydd y gwasanaeth hefyd yn galluogi trigolion a busnesau lleol i ddefnyddio datrysiadau digidol i helpu gwella profiad cyffredinol ymwelwyr i bawb.”


Ymholiadau'r Cyfryngau