News Centre

Parc sglefrio newydd yn cael ei ddatgelu ym Maes-y-cwmwr

Postiwyd ar : 27 Tach 2023

Parc sglefrio newydd yn cael ei ddatgelu ym Maes-y-cwmwr
Mae parc sglefrio newydd sbon wedi cael ei ddatgelu yn Hill View, Maes-y-cwmwr.

Y parc sglefrio yw'r nodwedd olaf i gael ei darparu fel rhan o becyn o welliannau amgylcheddol gwerth dros £154,000 ym Maes-y-cwmwr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.  

Fe wnaeth cyllid ychwanegol o £30,000 gan Gyngor Cymuned Maes-y-cwmwr hefyd helpu sicrhau bod gosod y parc sglefrio yn bosibl.

Mae’r gwelliannau hyn, a gafodd eu cyflawni fel rhan o raglen Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) y Cyngor, wedi cynnwys gosod offer ychwanegol yn y parc chwarae a chreu campfa awyr agored newydd.  Mae’r gymuned leol wedi nodi’r gwelliannau hyn fel rhan o broses ymgynghori helaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Fel rhan o raglen Safon Ansawdd Tai Cymru, mae dros £260 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn cartrefi sy’n eiddo i’r Cyngor a chymunedau ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.

"Wrth i ni agosáu at ddiwedd y gwaith o gyflawni elfen gwelliannau amgylcheddol y rhaglen, mae’n wych gweld ein bod ni'n parhau i ddiwallu anghenion ein cymunedau ni.

"Mae mynediad i fannau awyr agored addas, rhad ac am ddim ar gyfer chwaraeon a hamdden yn hynod o bwysig i iechyd a lles, yn enwedig wrth i’r argyfwng costau byw barhau i effeithio ar incwm gwario teuluoedd.  Mae’r cyfleusterau newydd ym Maes-y-cwmwr yn enghraifft wych o sut mae rhaglen SATC wedi darparu gofodau sy’n darparu ar gyfer amrywiaeth o oedrannau a galluoedd.”


Ymholiadau'r Cyfryngau