News Centre

Menter newydd yn cael ei lansio gan Safonau Masnach i amddiffyn trigolion y Nadolig hwn

Postiwyd ar : 21 Tach 2023

Menter newydd yn cael ei lansio gan Safonau Masnach i amddiffyn trigolion y Nadolig hwn
Yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lansio menter newydd i ddiogelu prynwyr a busnesau bach lleol rhag y niwed sy'n cael ei achosi gan fasnach gynyddol nwyddau ffug ar grwpiau prynu a gwerthu lleol ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu rhaglen Real Deal Online, menter genedlaethol sy'n sicrhau nad yw grwpiau prynu a gwerthu ar gyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo gwerthu nwyddau ffug a chynnyrch anghyfreithlon arall ac sy'n annog perthynas weithio agosach rhwng y grwpiau a'u gwasanaeth Safonau Masnach lleol.

Bydd Swyddogion Safonau Masnach yn nodi'r holl grwpiau prynu a gwerthu yn y Fwrdeistref Sirol sy'n gweithredu ar gyfryngau cymdeithasol.

Yna, byddan nhw'n cysylltu â gweinyddwyr y grwpiau i'w gwneud yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau cyfreithiol ac i'w gwahodd nhw i ddilyn Cod Ymarfer Real Deal Online.

Mae’r Cod Ymarfer yn ei gwneud hi'n ofynnol i weinyddwyr grwpiau groesawu Swyddogion Safonau Masnach fel aelodau o’r grŵp a chytuno i bum cam syml:

1. I wahardd gwerthu nwyddau ffug a nwyddau anghyfreithlon eraill;
2. I weithredu ar wybodaeth gan berchnogion hawliau eiddo deallusol a'u cynrychiolwyr nhw sy'n tynnu sylw at werthu nwyddau anghyfreithlon;
3.  I hysbysu Safonau Masnach os ydyn nhw'n credu bod nwyddau anghyfreithlon yn cael eu gwerthu o fewn y grŵp a gwahardd gwerthwyr y nwyddau hyn;
4. I amlygu rhybuddion a hysbysiadau cyngor sydd wedi'u postio gan Safonau Masnach;
5. I sicrhau bod holl aelodau'r grŵp yn ymwybodol o'i bolisi dim nwyddau ffug. 


Ymholiadau'r Cyfryngau