News Centre

Ffair Nadolig Flynyddol Menter Caerffili

Postiwyd ar : 24 Tach 2023

Ffair Nadolig Flynyddol Menter Caerffili
Mae Menter Caerffili yn cynnal eu Ffair Nadolig flynyddol ym Maenordy Llancaiach Fawr ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr, 11am – 3pm.

Bydd amrywiaeth o stondinau, bwyd a diod, gweithgareddau Nadoligaidd, Groto Siôn Corn, a pherfformiadau byw i ddifyrru'r teulu cyfan.

Mae mynediad i'r ffair yn £1 i oedolion. Mae tocynnau mynediad i Groto Siôn Corn yn £5 y plentyn ac ar gael ar-lein yn: https://mentercaerffili.cymru/event/grotosioncorn/22 (does dim angen tocyn ar yr oedolion sydd gyda nhw).

Ewch draw i ddathlu'r dathliadau, mwynhau perfformiadau, a phrynu anrhegion Nadolig!


Ymholiadau'r Cyfryngau